Y DJ Dafydd Meredydd yw pennaeth newydd gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.

Fe fydd yn Olygydd BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2, yn ogystal â goruchwylio gwasanaeth arlein BBC Cymru Fyw.

Mae Dafydd Meredydd wedi bod yn Olygydd Cynnwys BBC Radio Cymru dros dro ers i’r pennaeth presennol Rhuanedd Richards gael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru fis Mawrth, ac mae’n ei holynu fel Pennaeth Gwasanaethau Radio ac Arlein.

Ymunodd Dafydd Meredydd â BBC Radio Cymru yn 1992 fel ymchwilydd, ac mae e wedi gwneud ystod o swyddi gyda’r orsaf.

Ers hynny, mae e wedi bod yn cyflwyno ar Radio Cymru a Radio Cymru 2, ac wedi bod yn gynhyrchydd ac uwchgynhyrchydd.

Cysur

“O wrando’n foreol yng nghegin fy rhieni yn Llanrug ar ddiwedd 70au’r ganrif ddiwethaf, i gael y fraint o gyflwyno a gweithio gyda thîmau cynhyrchu’r orsaf am chwarter canrif a mwy, mae Radio Cymru wedi bod yn drac sain i fy mywyd ac yn agos iawn at fy nghalon,” meddai Dafydd Meredydd, sydd yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.

“Mae’r cyfle hwn i arwain y gwasanaeth, ynghyd â Radio Cymru 2 a gweithio gyda thîm gwasanaeth ar-lein Cymru Fyw yn un cyffrous tu hwnt.

“Mae’r flwyddyn a hanner heriol ddiwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru i’r gynulleidfa, wrth iddynt droi atom am wybodaeth, am gwmni, ac am gysur.

“Bydd y blynyddoedd nesaf yn gyfle nid yn unig i ddiolch am deyrngarwch y gynulleidfa trwy ddarparu’r gwasanaeth gorau posib, ond hefyd yn gyfle i arloesi ac estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ym mhob rhan o Gymru.”

“Arweinydd gwych”

Wrth groesawu’r penodiad, dywedodd Rhuanedd Richards fod “Dafydd yn angerddol am gynulleidfaoedd Cymraeg BBC Cymru” ac yn “uchelgeisiol tu hwnt” am eu gwasanaethau.

“Yn llais adnabyddus ar Radio Cymru ac yn fwy diweddar ar Radio Cymru 2, mae hefyd wedi profi ei fod yn arweinydd gwych ac mae ganddo weledigaeth gyffrous a chreadigol i’r orsaf,” meddai Rhuanedd Richards.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag e wrth iddo gychwyn ar bennod newydd i Radio Cymru a BBC Cymru Fyw.”

Fe fydd Dafydd Meredydd yn cychwyn y swydd ym mis Medi.