Lleucu Roberts yw enillydd y Fedal Ryddiaith eleni, gan gipio’r ‘dwbl’ rhyddiaith am yr eildro.

Hi oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod AmGen nos Fawrth, a bryd honno bu cryn sôn mai hi oedd y person cyntaf i ennill y ddwy wobr ryddiaith.

Mae hi wedi ailadrodd ei champ yr wythnos hon, gan ddod i’r brig yn y ddwy gystadleuaeth eto.

Roedd hi’n gystadleuaeth agos, a doedd y beirniad ddim yn unfryd y tro hwn, gyda chanmoliaeth uchel i waith ‘Corryn’, yn ogystal â ‘Cwmwl’, sef Lleucu Roberts.

Nofel am Swyn a’i mam yn teithio Cymru mewn fan VW ddaeth i’r brig felly, ac mae Y Stori Orau yn gymysg o “gyffyrddiadau gogleisiol” a “sylwadau crafog am fywyd”.

Mae Lleucu Roberts yn derbyn y Fedal Ryddiaith a £750, sy’n rhoddedig gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Daeth 16 ymgais i law’r beirniaid, Rhiannon Ifans, Elwyn Jones ac Elfyn Pritchard, a chafodd y Fedal ei chyflwyno am gyfrol ryddiaith greadigol, heb fod dros 40,000 o eiriau, ar y pwnc ‘Clymau’.

Roedd y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer y Fedal Ryddiaith ar ddechrau 2020, ac felly eleni, penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo’r enillydd er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau.

“Cyffyrddiadau gogleisiol”

Yn ôl Elfyn Pritchard, mae cyfrol Lleucu Roberts, Y Stori Orau, “yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd” gyda’r cyfrolau gorau sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y blynyddoedd diwethaf.

“Er bod y mynegiant yn ymddangosiadol syml mae’r awdur yn gwybod yn union sut i drin geiriau a cheir cyffyrddiadau gogleisiol yn gymysg â sylwadau crafog am fywyd ac wrth ailddarllen y gwaith roedd haenau ychwanegol o ystyron yn dod i’r amlwg,” meddai Elfyn Pritchard yn ei feirniadaeth.

“Dyma awdur sy’n feistr ar gyfleu perthynas cymeriadau â’i gilydd…”

Rhiannon Ifans, Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, fu’n traddodi ar ran ei chyd-feirniaid heno (5 Awst).

“Wel, sut mae hi i fod? O blith y llenorion sydd ar frig y gystadleuaeth eleni, i mi y prif lenor ydi ‘Corryn’, ac i’r llenor yma y byddwn i’n dyfarnu’r Fedal,” meddai Rhiannon Ifans.

“Ond mae ’na dri ohonon ni, a dydan ni ddim yn feirniaid unfryd. Ym marn fy nau gyd-feirniad, nofel ‘Cwmwl’ am Swyn a’i mam a’r fan VW sy’n dod i’r brig.

“Llongyfarchiadau calonnog i’r llenor hwnnw, felly, am ein swyno ni’n tri â’i ddawn.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi mai i ‘Cwmwl’ y dyfernir y Fedal Ryddiaith heno, ynghyd â phob clod ac anrhydedd a berthyn iddi.”

Lleucu Roberts

Cardi o Lanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth yw Lleucu Roberts, ond mae hi’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach.

Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig yn Aberystwyth lle cafodd ei hysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.

Graddiodd yn y Gymraeg o’r coleg ger y lli, a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad y diweddar Bobi Jones, ei thiwtor.

Am gyfnod, bu’n gweithio fel golygydd gyda Gwasg y Lolfa, ond erbyn hyn mae hi’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, a hynny i gwmni Testun Cyf yn bennaf.

Dros y blynyddoedd, bu’n ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, yn sgriptio cyfresi drama, ac mae hi’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobol ifanc.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og am ei nofelau i bobol ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen gyda Rhwng Edafedd a’r Fedal Ryddiaith gyda Saith Oes Efa yn 2014.

Cipiodd wobr Barn y Bobol golwg360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2015 hefyd.

“Yr un yw’r urddas”

Roedd nifer cyfyngedig o aelodau’r Orsedd yn bresennol yn y seremoni yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd heno.

“Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol – gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer,” meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd.

“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad.

“A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”

Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y Fedal Ryddiaith, a holl gystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, i’w gweld yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau a fydd ar werth ddydd Sadwrn (7 Awst).

Elfen ‘Siapaneaidd’ am hen wreigan yn colli ei chof tu ôl i lwyddiant nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen

‘Ro’n i’n ’sgwennu ymlaen hyd at ddiwedd 2019 a dechrau 2020, yn dychmygu hynny, ond nes i fawr ddychmygu beth oedd yn digwydd go iawn efo’r pandemig’