Mae’r actores Una Stubbs wedi marw’n 84 oed.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus am ei rhan fel y cymeriad Rita Rawlings yn y cyfresi comedi poblogaidd Till Death Us Do Part ac In Sickness And In Health, yn ogystal â’i rhan yn y ffilm Summer Holiday ochr yn ochr â Cliff Richard.

Cafodd ei geni yn Swydd Hertford yn 1937, a bu farw yng Nghaeredin.

Wnaeth ei gyrfa ym myd teledu, ffilm a’r theatr bara degawdau lu, ac un o’i rhannau diweddaraf oedd y cymeriad Mrs Hudson yn y gyfres Sherlock ar y BBC gyda Benedict Cumberbatch.

Dywed ei hasiant, Rebecca Blond, ei bod hi’n “actores hyfryd” a’i gyrfa’n “anarferol o amrywiol”, a hithau hefyd wedi perfformio yn theatrau’r West End yn Llundain, yr Old Vic, y Donmar Warehouse, y Sheffield Crucible a’r National Theatre.

Dywed hefyd ei bod hi’n “ddireidus o ddoniol, yn drwsiadus, llawn steil, gosgeiddig, graslon a charedig, ac yn ffrind parhaus”.

“Roedd hi hefyd yn arlunydd uchel ei pharch oedd wedi arddangos ei gwaith [yn y Royal Academy yn Llundain].

“Byddwn ni’n gweld ei heisiau’n enfawr ac yn ei chofio hi bob amser.”