Mae un o sêr y gyfres deledu boblogaidd Con Passionate yn gobeithio y bydd ei hailddangos ar S4C yn hwb i ganu corawl ar ôl cyfnod llwm yn sgil cyfyngiadau Covid-19.

Bydd cyfres gynta’r ddrama, sy’n serennu’r gantores a darlledwraig Shân Cothi fel yr arweinyddes Davina Roberts, yn cael ei dangos eto yn ei chyfanrwydd ar y sianel o nos Lun, Awst 23, gyda phennod bob nos yr wythnos honno a’r wythnos ganlynol.

Ar ôl blwyddyn a hanner heb ymarferion na chyngherddau, mae hi’n teimlo y bydd pobol yn “hiraethu” am ochr gymdeithasol canu corawl ac y gall ailddangos y gyfres lenwi’r bwlch hwnnw’n rannol.

“Dyn ni wedi colli canu corawl a’r cymdeithasu, a bydd pobol yn gwylio Con Passionate ac yn hiraethu am y cyfnod yna,” meddai.

“Y cyngherddau yna lle’r oedd neuaddau dan eu sang, a’r cystadlu iach.

“Mae eisiau’r drive yna, mae eisiau’r ysfa.

“Ac wrth gwrs, ti’n dibynnu ar bobol fel cymeriad Davina, boed yn fenyw neu yn ddyn – nhw yw calon cymdeithas, nhw sy’n tanio ac yn ysbrydoli’r talent sydd yn yr ardal ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ac yn gyrru nhw ymlaen.

“Efallai y bydd gwylio Con Passionate yn tanio’r ysbryd eto.

“Dw i’n meddwl bod Con Passionate yn mynd i gyffwrdd â phobol.

“Bydd lot o hiraeth yn gwylio fe, ond efallai y bydd e’n ysbrydoli pobol i ddweud ‘Come on, allwn ni ddim gadael hyn i fynd, mae’n rhaid iddo ddod yn ôl.”

‘Atgofion bendigedig’

Yn ôl Shân Cothi, roedd ei chyfnod yn actio yn y gyfres yn un hapus, llawn “atgofion melys”.

“Mae’r golygfeydd yn tasgu trwy fy meddwl i nawr,” meddai.

“Www, sôn am sbort a chwerthin!

“Roedd e’n briliant!

“Os gofynnwch chi i unrhyw un oedd yn y cast, bydden nhw i gyd yn dweud, ‘Dyddiau ac atgofion bendigedig’.

“Ac i gael yr ymateb gan y corau meibion – wel, dw i wedi canu gyda chymaint o gorau meibion ac mae aelodau’r corau yn ei joio a chorau meibion dros y byd, ro’n nhw’n gwylio fe achos ro’n nhw jyst yn dwlu ar y cyd-destun yma o gymuned a rhywbeth ro’n nhw’n uniaethu ag e.

“Roedd e mor boblogaidd, a dw i dal yn cael pobol yn dod lan ata’i a sôn am Con Passionate.”

Y gyfres

Bydd ailddangos y gyfres yn rhoi’r cyfle i ni gyfarfod eto â rhai o gymeriadau eraill y gyfres.

Yn eu plith mae Glyn (William Thomas, ysgrifennydd y côr), y trydanwr a fflyrt Peter (Ifan Huw Dafydd), Ian, sydd â phroblemau priodasol (Alun ap Brinley), yr athro Eurof, sy’n gadael i bawb reoli ei fywyd (Matthew Gravelle), Andy, y cyfreithiwr hyderus ond anhapus (Steffan Rhodri), a’r cyfeilydd Brian (Philip Hughes).