Bydd atal yr holl lygredd dŵr sy’n cael ei achosi gan hen fwyngloddiau yn costio cymaint â £282 miliwn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi enwi 129 o safleoedd oedd yn arfer mwyngloddio sinc, copr neu blwm, gan ddweud eu bod nhw’n achosi llygredd mewn afonydd a nentydd cyfagos.

Ar y cyfan, mae gan Gymru dros 1,300 o fwyngloddiau sydd ddim yn cael eu defnyddio mwyach, ac mae’r rheiny yn effeithio ar gyfanswm o dros 370 milltir o afonydd.

Gall llygredd o’r metelau sinc, copr neu blwm beri niwed i rywogaethau fel pryfed a physgod sy’n dibynnu ar y gylchred dŵr.

Fe ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi cael £5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru eleni, ac maen nhw’n datblygu ffyrdd i ddelio â’r sefyllfa.

‘Lot o waith wedi cael ei wneud’

Dywedodd Lisa Tomos o Gyfoeth Naturiol Cymru wrth y BBC bod y gwaith datblygu yn “enfawr” a bod ariannu wedi bod yn “heriol” i’r corff.

“Mae hi’n joban enfawr. Mae lot o waith wedi cael ei wneud,” meddai.

“Y gwaith tawel sy’n digwydd ydy’r atal dŵr rhag mynd mewn i’r mwynfeydd yma.

“Ond mewn adegau o law mawr, rydyn ni’n anffodus yn gweld bod dŵr yn ffeindio ffordd.

“Mae ariannu wedi bod yn heriol cyn 2016.

“Mae pob un safle mewn llefydd anodd – maen nhw’n anghysbell ac maen nhw mewn llefydd sensitif.”