Mae achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi am y tro cyntaf ers chwe mis yn Seland Newydd.

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Jacinda Ardern, ymestyn y cyfnod clo yn y wlad i reoli’r achosion, sydd eisoes wedi codi i gyfanswm o 31.

Yn ôl gwyddonwyr, mae’r firws wedi cyrraedd Auckland yng ngogledd y wlad, a hynny drwy ymwelydd yn dychwelyd o Awstralia, lle mae’r amrywiolyn Delta’n lledaenu’n gyflym ar hyn o bryd.

Mae achosion o’r amrywiolyn hwnnw bellach wedi cyrraedd prif ddinas Seland Newydd, Wellington, ac ail ddinas fwyaf Awstralia, Melbourne.

Cafodd yr amrywiolyn Delta ei gofnodi am y tro cyntaf yn Awstralia, yn Sydney ym mis Mehefin, ac mae 600 achos newydd wedi bod yn y ddinas honno dros y pedwar diwrnod diwethaf.

Mae Sydney yn wynebu cyfnod clo arall drwy gydol mis Medi, tra bod Melbourne wedi mynd mewn i’w chweched cyfnod clo ar ddydd Iau, 5 Awst.

Bydd Seland Newydd yn aros mewn cyfnod clo cenedlaethol hyd at o leiaf ddydd Mawrth, 24 Awst.

Angen bod yn “wyliadwrus”

Dywedodd Jacinda Ardern ei bod hi’n rhy gynnar i “ddod i gasgliadau rhesymol” am y cynnydd mewn achosion.

“Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n parhau i ddisgwyl am ganlyniadau nifer uchel o brofion a fydd yn helpu ni i wybod beth yw maint yr ymlediad.

“Rydyn ni’n ymwybodol ein bod ni’n delio efo achosion tu hwnt i Auckland, gyda rhai wedi eu cofnodi yn Wellington.”