Bydd dau o Aelodau’r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban yn dod yn weinidogion yn y llywodraeth yn sgil cytundeb newydd rhwng eu plaid a’r SNP.
Mae’r cytundeb hyder a chyflenwi, sydd wedi bod yn destun trafodaethau ers mis Mai, yn golygu bod mwyafrif yn Holyrood sydd o blaid annibyniaeth.
Dyweda dogfen ar wefan Llywodraeth yr Alban y bydd dau Aelod o’r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban yn cael eu henwebu i ddod yn weinidogion – y tro cyntaf i’r Blaid Werdd fod yn rhan o lywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
“Bydd y Prif Weinidog, ar ôl ymgynghori gyda chyd-arweinwyr Plaid Werdd yr Alban, yn enwebu dau o Aelodau’r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban i fod yn weinidogion,” meddai’r ddogfen.
Dan amodau’r trefniant newydd, bydd Aelodau’r Blaid Werdd yn y Senedd yn cefnogi Llywodraeth yr Alban ar bleidleisiau hyder, yn ogystal â chyllidebau blynyddol os oes “cyllid addas ar gyfer rhaglen bolisi ar y cyd”.