Mae mochyn daear wedi cael ei hoelio’n farw i goeden ger Dinbych.
Roedd cerddwr wedi darganfod yr anifail yn Nantglyn fore dydd Mercher, 18 Awst, ac mae’r heddlu bellach yn ymchwilio.
Caiff moch daear eu gwarchod gan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, sy’n gwneud hi’n anghyfreithlon i’w hanafu ac ymyrryd ar eu brochfeydd.
Gall troseddwyr sy’n torri’r gyfraith wynebu cyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar neu dderbyn dyled ddiderfyn.
Cadarnhaodd yr heddlu bod y mochyn daear wedi ei hoelio gerfydd ei draed ar uchder o ddeg troedfedd.
“Dydyn ni methu cadarnhau eto beth oedd achos marwolaeth yr anifail hwn, ond rydyn ni wedi cyflwyno’r corff ar gyfer post-mortem,” meddai PC Richard Smith o’r Tîm Troseddau Gwledig.
“Mae’n anhygoel bod erlid moch daear yn dal i ddigwydd yng Ngogledd Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â digwyddiadau ffiaidd fel y rhain.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â swyddogion Tîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru gan ffonio 101, neu gysylltu â Thaclo’r Tacle yn ddienw.