Mae prif swyddog meddygol Lloegr wedi annog pobl i beidio oedi rhag cael dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19.
Daw sylwadau’r Athro Chris Whitty wrth i ffigyrau newydd ddangos nad yw 55% o’r bobl sy’n dioddef o’r amrywiolyn Delta mewn ysbytai wedi cael eu brechu.
Roedd data gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd yn dangos bod bron i ddau draean o bobl o dan 50 sydd wedi marw gyda’r amrywiolyn heb dderbyn brechlyn.
Pwysleisiodd Whitty hefyd bod yna oedolion ifanc sydd wedi eu heffeithio’n wael iawn mewn rhai ysbytai.
“Mae’r mwyafrif helaeth o oedolion wedi cael eu brechu,” meddai ar ei dudalen Twitter.
“Mae pedair wythnos o weithio ar ward covid yn dangos y realiti llwm bod mwyafrif y cleifion covid sydd yn yr ysbyty heb eu brechu ac yn difaru oedi.
“Mae rhai yn sâl iawn, gan gynnwys oedolion ifanc.
“Peidiwch ag oedi rhag cael eich brechlyn.”
https://twitter.com/CMO_England/status/1428679298093834244
Sefyllfa frechu
Bellach, mae tua thri chwarter oedolion gwledydd Prydain wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn.
Mae ymdrechion torfol i gael pawb wedi eu brechu cyn gynted â phosibl, yn enwedig y tair miliwn o oedolion ifanc sydd heb gael dos cyntaf.
Yng Nghymru, mae cyfraddau’n parhau i gynyddu, gydag un mewn 130 wedi cael Covid-19 yn yr wythnos hyd at Awst 14.