Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau diogelwch dinasyddion yn Affganistan.

Roedd y Taliban wedi goresgyn y brifddinas Kabul brynhawn ddoe (dydd Sul, Awst 15), ac maen nhw, i bob pwrpas, mewn grym yn y wlad am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Brynhawn heddiw (dydd Llun, Awst 16), roedd trigolion wedi ymgasglu ym maes awyr y brifddinas i geisio ffoi o’r wlad.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Seneddol Plaid Cymru, yn dweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “gyfrifoldeb ymarferol a moesol” i sicrhau diogelwch dinasyddion gwledydd Prydain, yn ogystal â’r brodorion sydd yn y wlad.

Mae hi’n pwyso ar y llywodraeth i brosesu’r ddogfennaeth berthnasol i gael y bobol hyn o’r wlad cyn gynted â phosibl.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb ymarferol a moesol i sicrhau bod dinasyddion a phersonél Prydain yn gallu gadael y wlad yn gyflym ac yn ddiogel yn ogystal â gwladolion o Affganistan sy’n gysylltiedig â chenhadaeth Prydain / NATO yn Affganistan,” meddai.

“Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl ac, os oes angen, caniatáu prosesu fisas a dogfennaeth arall yn ddiweddarach unwaith y byddant yn ddiogel.

“Rhaid i wacáu cyflym a diogel fod yn flaenoriaeth yn anad dim arall.”