Ni all y Taliban ddisgwyl i’r gymuned ryngwladol eu cydnabod os ydyn nhw’n parhau i dorri hawliau dynol, meddai cynrychiolydd y Deyrnas Unedig yn y Cenhedloedd Unedig.
Fe wnaeth Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gynnal cyfarfod brys yn Efrog Newydd heddiw (16 Awst) ar ôl i’r Taliban gipio grym yn Affganistan.
Mae ofnau na fydd y Taliban yn cynnal hawliau dynol ac y gallai cyfyngiadau llym gael eu gosod ar fenywod a merched eto – ac mae saith o bobol wedi marw yn dilyn helynt ym maes awyr Kabul wrth i filoedd o bobol geisio gadael y wlad.
Fe wnaeth rhai ddal ar ochr un o awyrennau byddin yr Unol Daleithiau, a disgynnodd eraill oddi ar awyren oedd yn hedfan dros Kabul.
Byddin yr Unol Daleithiau sydd â rheolaeth dros y maes awyr, a bydd 1,000 o filwyr eraill yn cael eu gyrru yno i geisio ei amddiffyn.
Yn y cyfamser, mae Dominic Raab wedi amddiffyn ei benderfyniad i beidio â dychwelyd ddiwrnod ynghynt o wyliau dramor, ac wedi dweud na fyddai’n diystyru gosod sancsiynau ar Affganistan.
Bydd 200 o filwyr eraill o’r Deyrnas Unedig yn cael eu gyrru i Kabul i helpu dinasyddion Prydeinig a chynghreiriaid lleol i adael y wlad hefyd.
“Ffawd” pobol Affganistan yn “ansicr”
Dywedodd James Kariuki, is-gynrychiolydd parhaol y Deyrnas Unedig i’r Cenhedloedd Unedig, na ddylai’r wlad ddod yn hafan i derfysgwyr eto.
“Rydyn ni wedi credu ers tro mai’r unig lwybr tuag at heddwch cynaliadwy yn Affganistan a sefydlogrwydd rhanbarthol yw drwy drefniant gwleidyddol,” meddai.
“Os yw’r Taliban yn parhau i gam-drin hawliau dynol sylfaenol, ni allen nhw ddisgwyl i bobol Affganistan na’r gymuned ryngwladol eu cydnabod.”
Er bod y Taliban wedi dweud y bydden nhw’n cadw at safonau rhyngwladol, mae yna dystiolaeth eu bod nhw wedi torri hawliau dynol mewn llefydd lle maen nhw wedi cipio grym “gan gynnwys drwy erlyn grwpiau lleiafrifol, cyfyngiadau llym ar fenywod, honiadau o briodasau gorfodol a defnyddio dinasyddion fel tariannau dynol” meddai James Kariuki.
Daw ei sylwadau wrth i gynrychiolydd Affganistan yn y Cenhedloedd Unedig, Ghulam M Isaczai, ddweud bod ffawd pobol y wlad yn “ansicr”.
“Heddiw dw i’n siarad ar ran miliynau o bobol Affganistan, sy’n wynebu dyfodol ansicr iawn.
“Dw i’n siarad ar ran miliynau o enethod a menywod Affgan sydd ar fin colli eu rhyddid i fynd i’r ysgol, i’r gwaith, ac i gyfrannu at fywyd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y wlad.
“Dw i’n siarad ar ran miloedd o warchodwyr hawliau dynol, newyddiadurwyr, academyddion, gweision sifil, a chyn-weithwyr diogelwch sydd â’u bywydau mewn perygl ar amddiffyn hawliau dynol a democratiaeth.
“Dw i’n siarad ar ran miloedd o bobol sydd wedi’u dadleoli ar draws y wlad sydd wirioneddol angen llety, bwyd ac amddiffyniad yn Kabul ac mewn llefydd eraill.”
Galwodd Ghulam M Isaczai ar y Cenhedloedd Unedig i roi pwysau ar y Taliban i “atal trais pellach, atal rhyfel cartref yn Affganistan ac atal y wlad rhag dod yn wladwriaeth ysgymun”.
Fe wnaeth ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, annog y Taliban i gadw at hawliau dynol, yn enwedig hawliau menywod a merched.
“Mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ddod ynghyd i sicrhau na fydd Affganistan yn cael ei defnyddio fel platfform neu hafan i fudiadau terfysgol byth eto.
“Mae’r Affganiaid yn bobol falch gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Maen nhw wedi gweld cenedlaethau o ryfeloedd a chaledi. Maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth lawn. Bydd y dyddiau nesaf yn hollbwysig, mae’r byd yn gwylio. Ni allwn ni, ac ni ddylem ni, droi ein cefnau ar bobol Affganistan.”
“Dyfodol tywyll” i fenywod
Mae pryderon yn arbennig ynghylch dyfodol menywod Affganistan, gydag ofnau y bydd y Taliban yn gorfodi cyfyngiadau llym ar fenywod fel y rhai oedd yn bodoli cyn i’r grŵp golli grym yn 2001.
“Mae’r dyddiau a’r misoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o dyngedfennol a phryderus i fenywod yn y wlad,” meddai Meetra Qutb, ymchwilydd wnaeth adael Affganistan bedair blynedd yn ôl, wrth PA.
“Mae nifer yn ofni y bydd hanes yn ailadrodd ei hun gan effeithio ar eu hawliau, ac mae ganddyn nhw ofn bod dyfodol tywyll o’u blaenau.
“Rhwng 1996 a 2001 doedd menywod ddim yn cael mynd i’r ysgol, gweithio tu allan na gadael y tŷ heb ddyn hyd yn oed.”
Dywedodd ei bod hi wedi gweld arwyddion y gallai mesurau felly ddychwelyd ers ddoe (15 Awst), gyda hysbysebion o fenywod mewn ffrogiau’n cael eu peintio a chyflogwyr yn diswyddo menywod.
Galwodd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i chynghreiriaid i “roi pwysau ar y Taliban” er mwyn sicrhau bod hawliau menywod yn cael eu cynnal.
“Er lles dynoliaeth, byswn i’n disgwyl i bobol yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop godi eu lleisiau dros fenywod Affganistan i osgoi trychineb a thrasiedi dynol.”
Dominic Raab
Mae Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, Dominic Raab, dan bwysau ar ôl treulio’r wythnos ddiwethaf ar wyliau dramor.
Dywedodd fod pawb wedi syfrdanu fod y Taliban wedi cipio rheolaeth dros Affganistan mor sydyn.
“Y gwir yw, yr hyn sy’n bwysig ar y funud yw ein bod ni’n canolbwyntio ar gael dinasyddion Prydain allan, cael y rhai sydd wedi gwasanaethau’r Deyrnas Unedig yn ffyddlon allan, a gwneud siŵr fod y cynnydd yr ydyn ni wedi’i wneud dros yr ugain mlynedd ddiwethaf ddim yn cael ei golli.”
Ychwanegodd Dominic Raab ei fod e wedi bod mewn cysylltiad â’i dîm dros yr wythnos ddiwethaf, a’i fod e dal yn gallu bod mewn “rheolaeth uniongyrchol” dros waith y Swyddfa Dramor hyd yn oed pan yr oedd ar wyliau.
Dywedodd na fyddai’n diystyru gosod sancsiynau ar Affganistan pe bai’r Taliban ddim yn gadw at eu hymrwymiadau ynghylch cadw hawliau dynol ac atal terfysgaeth.
Ni wnaeth Dominic Raab fanylu ar faint o ffoaduriaid y bydd y Deyrnas Unedig yn eu derbyn o Affganistan.
“Rydyn ni’n gweithio’n ofalus iawn. Rydyn ni’n amlwg yn genedl â chalon fawr, mae gennym ni’r sylfeini ar gyfer llety, mae hynny lawr mewn cyfraith, rydyn ni’n gweithio gyda’r Cenhedloedd Unedig ar hynny.”
“Dod ynghyd”
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi bod yn trafod y sefyllfa gydag Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, gan amlinellu ei fwriad i gynnal cyfarfod rhithiol gydag arweinwyr G7 yn y dyddiau nesaf.
“Fe wnaeth e bwysleisio’r angen i’r gymuned ryngwladol ddod ynghyd a chymryd agwedd ar y cyd tuag at Affganistan, o ran cydnabod unrhyw lywodraeth yn y dyfodol a gweithio i atal argyfwng dyngarol ac argyfwng ffoaduriaid,” meddai llefarydd ar ran Boris Johnson.
“Fe wnaeth yr arweinwyr ill dau bwysleisio’r pwysigrwydd parhaus o weithio ar y cyd ar ddyfodol hirdymor Affganistan a’r angen brys i helpu ein dinasyddion ac eraill at ddiogelwch. Fe wnaethon nhw gytuno y dylai Ffrainc a’r Deyrnas Unedig weithio gyda’i gilydd ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys ar gyd-ddatrysiad posib.”