Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, o dan bwysau ar ôl treulio’r wythnos ddiwethaf ar wyliau dramor tra bod y sefyllfa yn Affganistan yn gwaethygu.
Dywedodd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ei fod yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig ddydd Sul (Awst 15) a’i fod yn “goruchwylio’n bersonol” ymateb yr adran i’r argyfwng.
Fodd bynnag, dywed Lisa Nandy, llefarydd tramor Llafur, fod ei absenoldeb yn ystod newid rhyngwladol mawr yn annerbyniol.
“Mae’n gwbl gywilyddus i’r Ysgrifennydd Tramor ddiflannu yn ystod argyfwng rhyngwladol o’r maint hwn,” meddai.
“Mae trychineb yn datblygu o flaen ein llygaid ac nid yw’r Ysgrifennydd Tramor yn bresennol, tra bod cannoedd o ddinasyddion Prydain yn cael eu rhuthro o Affganistan ac mae ei adran yn canslo ysgoloriaethau ar gyfer pobol ifanc o Affganistan.”
Roedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Tom Tugendhat, cadeirydd Pwyllgor Materion Tramor Tŷ’r Cyffredin, hefyd yn anhapus pan gafodd ei holi am ymateb tebygol y Swyddfa Dramor i gwymp llywodraeth Affganistan.
“Dydw i ddim yn gwybod beth sydd ar y gweill oherwydd dydyn ni ddim wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Tramor ers tua wythnos, er mai dyma’r trychineb polisi unigol fwyaf ers Suez,” meddai wrth BBC News.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod “yr Ysgrifennydd Tramor yn bersonol yn goruchwylio ymateb y Swyddfa Dramor ac yn ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol”.
“Mae’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig heddiw, o ystyried y sefyllfa,” meddai wedyn.
Yn y cyfamser, mae Dominic Raab wedi trydar ei fod wedi bod yn rhannu ei “bryderon dwfn” am y sefyllfa yn Affganistan gyda Shah Mahmood Qureshi, Gweinidog Tramor Pacistan.