Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cefnogaeth ariannol gwerth £11.5m i gefnogi teuluoedd a phlant sy’n agored i niwed.

Wrth gyhoeddi’r pecyn, dywed Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y bydd yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu a chyrraedd eu potensial.

Er eu bod nhw wedi ceisio blaenoriaethu anghenion plant a phobol ifanc drwy’r pandemig gan gynnal gwasanaethau ar eu cyfer, mae’n rhaid darparu cymorth ychwanegol nawr i wneud iawn am yr amser a chyfleoedd a gafodd eu colli, meddai.

Mae’r buddsoddiad yn cynnwys £4.5m i roi hwb i’r Gronfa Datblygu Plant, sy’n rhoi cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynghylch oedi mewn datblygiad mewn meysydd fel lleferydd, iaith a chyfathrebu, a datblygiad personol a chymdeithasol.

Bydd £7m yn cael ei roi i’r Grant Plant a Chymunedau hefyd, er mwyn lleihau rhestrau aros am wasanaethau cymorth cynnar.

Bwriad y grant yw mynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig ar blant a phobol ifanc hyd at 25 oed, gan gynnwys y rhai sydd newydd ddod yn agored i niwed.

“Symud ymlaen”

“Mae pob un ohonom wedi teimlo effeithiau’r flwyddyn ddiwethaf, ac yn arbennig ein plant a’n pobol ifanc a’r rhai sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig sy’n wynebu’r amddifadedd mwyaf,” meddai Julie Morgan.

“Er ein bod wedi ceisio blaenoriaethu anghenion ein plant a’n pobol ifanc drwy gydol y pandemig, gan gynnal y gwasanaethau ar eu cyfer gymaint â phosibl, gwyddom fod angen darparu cymorth ychwanegol nawr i helpu i wneud iawn am yr amser a’r cyfleoedd a gollwyd.

“Mae gennym nifer o raglenni atal ac ymyrryd yn gynnar hynod effeithiol ar draws Cymru sy’n rhoi cymorth i blant a theuluoedd.

“Yn ystod yr argyfwng iechyd, maent yn aml wedi gorfod addasu eu dulliau gweithredu yn unol â’r cyfyngiadau ehangach yr ydym i gyd wedi’u hwynebu, gan oedi rhai gwasanaethau dros dro ar adegau.

“Mae llawer o’r gweithgareddau bellach wedi ailddechrau, gan weithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael ag effeithiau uniongyrchol y cyfyngiadau symud a’r pandemig ar les economaidd, cymdeithasol, meddyliol a chorfforol.

“Mae’r cymorth y maent yn ei ddarparu yn hollbwysig wrth i blant a theuluoedd ailffocysu a symud ymlaen.”