Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull yn Plymouth er mwyn talu teyrnged i bump o bobol gafodd eu lladd mewn cyflafan yno.

Fe wnaeth ffigurau crefyddol, gwleidyddion, gweithwyr y gwasanaethau brys, y fyddin ac arweinwyr y ddinas ymuno â thua 200 o bobol y tu allan i’r Guildhall yng nghanol y ddinas er mwyn cynnal munud o dawelwch.

Daethon nhw ynghyd i alw am newid ac i alaru ac adlewyrchu ar ddigwyddiadau’r wythnos ddiwethaf, pan wnaeth Jake Davison, 22, saethu nifer o bobol yn ardal Keyham o’r ddinas nos Iau (Awst 12).

Saethodd ei fam Maxine Davison, oedd yn cael ei hadnabod fel Maxine Chapman hefyd, mewn tŷ yn Biddick Drive cyn mynd allan i’r stryd a saethu merch dair oed, Sophie Martyn, a’i thad, Lee Martyn, 43, yn farw.

Aeth yn ei flaen i lofruddio Stephen Washington, 59, mewn parc cyfagos, cyn saethu Kate Shepherd, 66, fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

‘Creu newid’

Wrth siarad â galarwyr y tu allan i’r Guildhall heddiw (dydd Llun, Awst 16), dywedodd Kevin Sproston, arweinydd cymuned Keyham, fod y “cydsefyll, cariad a chefnogaeth sydd wedi’i ddangos gan Plymouth a’r Deyrnas Unedig tuag at Keyham wedi bod yn ysgubol ac rydyn ni’n diolch i chi gyd am eich negeseuon caredig, mae’n golygu lot”.

“Ar y funud mae Keyham yn galaru,” meddai.

“Rydyn ni’n galaru oherwydd ein bod ni’n caru, a chariad yw galar.

“Rydyn ni mewn sioc, yn teimlo’n euog ac yn flin am y digwyddiadau’n ymwneud â marwolaethau aelodau annwyl ein cymuned oherwydd ein bod ni’n caru.

“Gallwn ni ddefnyddio’r cariad a’r egni hwnnw nawr i greu newid.

“Fel cymuned, byddwn ni’n gweithio tuag at adfer ac ailadeiladu gyda’n gilydd.

“Ar y cyd, byddwn ni’n cefnogi’n gilydd ac yn helpu i adfer y gymuned rydyn ni am i’n plant ei hetifeddu.”

“Ymdrechion arwrol”

“Yn olaf, ar ran cymuned Keyham hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu dewrder a’u hymateb sydyn i helpu’r rhai yn Keyham,” ychwanegodd Kevin Sproston.

“Mae eich ymdrechion yn arwrol, ac mae nifer o breswylwyr eisiau i mi basio eu diolchiadau pennaf ymlaen.

“Wrth siarad am bobol arwrol, dw i eisiau diolch yn bersonol i’r oedolion ifanc, plant yn eu harddegau a phobol ifanc Keyham sydd wedi cadw’r wylnos yn lân ac a wnaeth ddod i’r parc yn gynnar o’u gwirfodd i helpu’r cynllun gwarchod cymuned i osod yr wylnos i’r gymuned.

“Hefyd, y ddau fachgen ifanc a wnaeth achub bywydau drwy eu gweithredoedd dewr ar ddiwrnod y saethu. Mae eich gweithredoedd ac eich dewrder  wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi ac i eraill, a diolch yn fawr i chi.

“Mae’n bwysig i’r gymuned bod y teuluoedd sydd wedi’u heffeithio, a’r oedolion ifanc a’r plant hynny yn cael gofal nawr ac yn y dyfodol.

“I bobol Plymouth, rydych chi wedi dangos eich cefnogaeth ac yn ystod rhai o ddyddiau tywyllaf Keyham rydych chi wedi’n hatgoffa ni ein bod ni ddim ar ein pennau ein hunain a bod Plymouth wir gyda’i gilydd.

“Y cydsefyll fel dinas sy’n ein gwneud ni’n wych, ac er mai dau air syml ydyn nhw maen nhw’n golygu cymaint i ni ar y funud.

“Plymouth gyda’n gilydd, diolch ichi.”

Fe wnaeth galarwyr groesawu Maer Plymouth, y Cynghorydd Terri Beer, ac fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson ymuno â’r munud o dawelwch yn rhithiol.

Gwiriadau

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd proffiliau cyfryngau cymdeithasol pobol sy’n gwneud cais am drwydded gynnau yn cael eu gwirio.

Mae cwestiynau wedi codi ynghylch sut wnaeth Jake Davison, a wnaeth ladd ei hun ar ôl y digwyddiad, gael gafael ar drwydded gynnau.

Bydd holl luoedd heddlu Cymru a Lloegr yn gorfod adolygu eu prosesau ar gyfer ymgeisio am drwydded, yn ogystal ag ystyried a ydyn nhw angen ailymweld â rhai o’r trwyddedau sydd wedi’u rhoi yn barod.

Roedd defnydd Jake Davison o’r cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod ganddo ddiddordeb mewn gynnau a’r Unol Daleithiau, yn ogystal ag obsesiwn â diwylliant “incel” neu “involuntary celibate”.

Mae’n ddiwylliant sy’n seiliedig ar ddynion yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gormesu gan fenywod yn sgil diffyg diddordeb mewn cael perthynas rywiol gyda nhw.

Mae ymchwiliad wedi’i lansio gan Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, a fydd yn edrych ar pam fod Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi rhoi trwydded Jake Davison yn ôl iddo fis diwethaf.

Collodd ei drwydded yn dilyn honiad ei fod wedi ymosod ar rywun fis Medi llynedd.

Plymouth

Cyflafan Plymouth: Llafur yn dweud bod cwestiynau i’w hateb

Syr Keir Starmer hefyd yn galw am adolygiad o gyfreithiau’n ymwneud â dryllau