Mae’r heddlu apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bala ddoe (dydd Sul, Awst 15).
Mae beiciwr modur yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, a oedd yn cynnwys beic modur Honda du a Ford Ecosport gwyn, tua 2:25yp ar yr A4212 yn Fron Goch.
Cafodd y beiciwr modur, dyn yn ei 40au, ei hedfan i’r ysbyty yn Stoke ag anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Roedd y ffordd ar gau am fwy na phum awr wedyn.
Mae Sarjant Medwyn Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd yn apelio am dystion.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A4212 ac sydd â lluniau dash cam, i gysylltu â ni ar unwaith,” meddai.
“Ail-agorodd y ffordd ychydig cyn 8pm i ganiatáu i gydweithwyr o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymchwiliad cychwynnol, a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a’r cyhoedd am eu hamynedd.”
Mae gofyn i unrhyw un a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad gysylltu â swyddogion yn yr Uned Plismona’r Ffyrdd drwy’r wefan neu drwy ffonio 101.