Mae dyn 25 oed o Gaerdydd wedi cyfaddef iddo daflu asid sylffwrig yn wyneb dynes ifanc mewn ymosodiad yn Brighton.

Plediodd Milad Rouf yn euog yn Llys y Goron Lewes i un cyhuddiad o fwriadu llosgi, anafu eu achosi anabledd neu niwed corfforol difrifol i ddynes yn ei 20au ar Fai 20.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Hydref 7.

Mae’r barnwr wedi gohirio’r achos er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi cyn ei ddedfrydu.

Wnaeth e ddim pledio i ail gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol, ond fe gafodd ei gofnodi.