Mae ymgyrchwyr wedi teithio i gopa Carn Ingli i ddatgan eu pryder am yr argyfwng ail gartrefi, ac mae un ohonyn nhw wedi dweud wrth golwg360 fod y sefyllfa’n “rhwygo’r galon ma’s o’n cymunedau ni”.

Aeth y criw o ymgyrchwyr ati i ddringo’r mynydd fel rhan o ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’, gyda phobol yn dringo i gopaon Crib Goch, Pen y Fan a Charn Ingli.

Roedd pedwar wedi cymryd rhan yn y daith yn Sir Benfro brynhawn heddiw (dydd Llun, Awst 16).

Sefyllfa ‘drychinebus’

Dywed un o’r dringwyr, Hedd Lewis, fod y sefyllfa yn “drychinebus” yng ngogledd y sir.

“Mae yna fwthyn ar lethrau Carn Ingli, sydd ond â dwy lofft iddo, ac mae e ar y farchnad am dros £800,000,” meddai wrth golwg360.

“Ar hyn o bryd, mae tai teras yn Nhrefdraeth ei hunan yn mynd am rhwng £400,000 a £500,000, felly does dim gobaith i bobol leol fyw yn eu milltir sgwâr.

“Mae’n debyg bod dros ddeunaw o dai wedi eu prynu yn Llandudoch yn y flwyddyn ddiwethaf gan bobol sy’n buddsoddi arian mewn Airbnbs.

“Mae goblygiadau hynny – yn ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd – yn mynd i fod yn drychinebus.

“Rydyn ni’n gweld disgyblion yn gadael ein hysgolion ni’n rhugl yn y Gymraeg, ond allan nhw ddim fforddio aros yma a magu teulu.

“Mae e’n rhwygo’r galon mas o’n cymunedau ni ac mae’n mynd i ladd yr iaith.”

‘Pigo cydwybod’ y Cymry Cymraeg

Mae Hedd Lewis yn nodi bod Cymry Cymraeg, yn ogystal â phobol o Loegr, yn cyfrannu at yr argyfwng yn y sir.

“Mae’n rhaid i ni gofio hefyd, dydy hyn ddim yn unig yn broblem o bobl o Loegr yn prynu tai haf, mae llawer o Gymry Cymraeg yn prynu ail dai yn ardal Trefdraeth,” meddai.

“Mae angen i ni bigo eu cydwybod nhw hefyd, achos maen nhw’n gwneud lot o ddrwg i’n hiaith ni ac i’n diwylliant ni.

“Dewch ar eich gwyliau yma a mwynhewch, ond peidiwch â phrynu tai haf yma.”

Gweithredu

Mae Hedd Lewis yn credu bod angen gweithredu “radical” ar unwaith ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor y Sir.

“Mae’n rhaid i lywodraeth y blaid Lafur ei siapio hi a mynd i’r afael â’r her hon yn ddybryd,” meddai.

“Mae angen cydnabod bod hwn yn argyfwng sydd ddim am ddiflannu, ac mae angen cyflwyno deddf eiddo newydd er mwyn rheoli’r farchnad dai, sydd allan o reolaeth yn llwyr.

“Yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol, mae’n rhaid cadw hynny mewn ystyriaeth wrth ystyried datblygiadau newydd a thai cymdeithasol.

“Yn sicr wrth gynllunio, mae’n rhaid ystyried yr oblygiadau ar y Gymraeg, ac mae angen bod yna reolaeth fwy llym ar y fasnach dai haf ac Airbnbs hefyd.

“Mae eisiau edrych ar faint o dreth mae perchnogion ail dai yn talu, ond hefyd mae angen atal y bobol hynny rhag osgoi talu’r dreth yna.

“Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ydi caniatâd cynllunio i droi tŷ yn dŷ haf, achos dylai bod yna dai ar werth i bobol leol yn unig hefyd.

“Mae’n rhaid cael gweithredu radical nawr, neu bydd ein cymunedau ni wedi eu difetha’n gyfan gwbl.”

Dringo i gopa Crib Goch i ddatgan ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn “dangos difrifoldeb” y sefyllfa

Cadi Dafydd

Y criw wedi dewis gwneud y daith “er mwyn trio amlygu bod ein cymunedau ni dan warchae”

“Nid jyst problem lan yn y gogledd” yw’r argyfwng tai, medd ymgyrchydd o Gaerdydd

Cadi Dafydd

“Anfon neges o’r de i’r gogledd ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd” drwy fynd â baner ‘Nid yw Cymru ar Werth’ i gopa Pen y Fan