“Nid ar chwarae bach” mae rhywun yn penderfynu dringo Crib Goch mewn gwynt gyda baner fawr, ond penderfynodd saith o ymgyrchwyr wneud hynny er mwyn datgan ‘Nad yw Cymru ar Werth’, ac roedd y weithred yn “dangos difrifoldeb” yr argyfwng ail gartrefi, meddai Osian Jones, un o’r chwech fuodd i fyny un o ddringfeydd anoddaf a pheryclaf Cymru ddoe (dydd Llun, Awst 16).
Mae hi’n sefyllfa “argyfyngus” ar gymunedau Cymru, a chymunedau Cymraeg eu hiaith, meddai wrth golwg360, ac mae ystadegau newydd yn dangos bod prisiau tai wedi codi mwy yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
Aeth criwiau o ymgyrchwyr i gopaon Crib Goch ger yr Wyddfa, copa uchaf y de Pen y Fan, a Charn Ingli yn Sir Benfro fel rhan o’r ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’.
‘Dangos difrifoldeb’
“Rydyn ni jyst yn bobol sydd yn licio gweithredu a gwneud pethau ar lawr gwlad,” meddai Osian Jones, un o’r criw fu’n dringo Crib Goch.
“Roedden ni jyst yn teimlo ei bod hi’n sefyllfa mor argyfyngus ar gymunedau Cymru, a chymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith gyntaf, roedden ni’n meddwl y bydden ni’n mynd fyny Crib Goch – sy’n cael ei gydnabod fel un o’r dringfeydd anoddaf a pheryclaf yng Nghymru – er mwyn dangos difrifoldeb y sefyllfa.
“Fe wnaethon ni osod baner fawr ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ar dop un o’r pinaclau.
“Roedd ei gosod hi mewn lle mor beryglus mewn gwynt eithaf cryf yn dasg eithaf anodd, ond fe wnaethon ni lwyddo i wneud.”
‘Dan warchae’
“Mae’r ardal yn arwyddocaol,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n bwysig cydnabod fod ymgyrchwyr wedi bod i fyny Carn Ingli yn Sir Benfro a Phen y Fan hefyd.
“Roedden ni’n meddwl y bysa fo’n dda gwneud o mewn tair ardal wahanol o gwmpas Cymru.
“Ond rydyn ni i gyd yn gwybod am y broblem ail gartrefi sydd yn Llanberis, wedyn roedd hynny’n rheswm ychwanegol pam dewis Crib Goch.
“Ond y prif reswm oedd ein bod ni’n fodlon dangos difrifoldeb y sefyllfa, nid ar chwarae bach wyt ti’n mynd i fyny Crib Goch mewn gwynt i osod baner fawr oedd basically fel parasiwt o’i hagor hi allan.
“[Ac] ein bod ni wedi dewis fel unigolion ein bod ni’n fodlon gwneud hynny, er mwyn trio amlygu bod ein cymunedau ni dan warchae.”
Cadw momentwm
Fis diwethaf, fe wnaeth cannoedd o bobol ffurfio argae dynol yn Nhryweryn, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ralïau eraill at yr hydref.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo a fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.
“Yn dilyn y rali yn Nhryweryn, byddwn yn cynnal rali bellach yn Nhrefdraeth ar draeth y Parrog Sir Benfro ar Hydref 23ain, cyn mynd â’n galwad at y Llywodraeth trwy rali ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ar y 13eg o Dachwedd,” meddai Osian Jones.
“Disgwyliwn gamau brys a radical gan Lywodraeth Cymru i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli’r farchnad dai.
“Yn bersonol, dw i’n meddwl ei bod hi’n hynod o bwysig cadw momentwm a dw i’n meddwl bod posib gwneud hynny rŵan.
“Ond y job ydi ei gynnal o drwy fisoedd y gaeaf, ond dw i’n meddwl fod yna ddigon o gefnogaeth a theimladau cryfion allan yna i wneud hynny hefyd.”