Er bod “gwahanol ddeinameg” yn perthyn i’r argyfwng dai yn ardal Caerdydd, “yr un broblem” mae’n ei hachosi i bobol ifanc sydd yn methu fforddio tai, yn ôl un o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith sydd wedi bod yn dringo mynydd Pen y Fan.
Aeth Marc Flagg i gopa uchaf y de gyda baner ‘Nid yw Cymru’ Ar Werth’, gan ei fod e’n awyddus i anfon neges o’r gogledd i’r de “ein bod ni’n sefyllfa gyda’n gilydd”.
Pwysleisia fod yr ymgyrch ddiweddar i gario baneri i gopaon Pen y Fan, Crib Goch a Charn Ingli yn datgan pryder ynghylch yr argyfwng ail gartrefi a’r sefyllfa dai wedi creu cysylltiad dros Gymru, gan sicrhau bod yr achos yn un ar gyfer Cymru gyfan.
Dyw hi ddim yn broblem i’r gogledd yn unig nawr, meddai Marc Flagg, gan ychwanegu bod yr elfen ieithyddol sy’n perthyn i’r achos mewn siroedd fel Gwynedd a Cheredigion yn golygu bod gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd.
“Yr un problemau”
Ar ôl darllen am yr hyn oedd yn digwydd yn y gogledd, penderfynodd Marc Flagg ei fod e am fynd â’r faner ‘Nid yw Cymru ar Werth’ i fyny Pen y Fan.
“Dw i’n dringo yno yn arferol iawn, bron bob wythnos… felly roeddwn i’n meddwl ei fod e’n beth hawdd i fi jyst mynd lan yna wedyn mae Cymdeithas yn cael pob pig yng Nghymru, mewn ffordd,” eboniodd wrth golwg360.
“Dw i’n teimlo’n gryf ynglŷn â’r peth yn y gogledd, gyda phrisio pobol ma’s o dai a’r bygwth i gymuned.
“Rydyn ni’n cael yr un sort o broblemau lawr yng Nghaerdydd, mae’n wahanol ddeinamig ond yr un problemau ydyn nhw i bobol ifanc [fethu] fforddio tai.
“Ond wrth gwrs, yn y gogledd a Cheredigion mae’n drafferth fawr.
“Roeddwn i jyst mo’yn anfon neges o’r de i’r gogledd ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd yng Nghymru ar yr achos yma.
“Dangos rhyw fath o neges iddyn nhw bod eu hymdrechion nhw ddim ar ben eu hunain, bod y de yn edrych lan ac yn eu cefnogi nhw.
“Yn dangos undod dros Gymru wedyn, efallai bod teimladau yn y gogledd eu bod nhw ar ben eu hunain… dangos bod ffrindiau lawr yn y de sy’n cefnogi nhw.”
‘Cyswllt ac undod’
“Rydyn ni’n cael yr un sort o broblem lawr fan hyn, mae yna broblem o wasgu pobol allan o gymunedau oherwydd prisiau tai,” meddai Marc Flagg wrth drafod y sefyllfa yng Nghaerdydd.
“Mae prisiau tai yn ofnadwy o ddrud ar fy stryd i nawr, sut mae pobol yn gallu prynu? Dw i ddim yn deall.
“Ond dyw e ddim mor gryf o ran yr iaith lawr fan hyn. Dw i’n byw lle mae nifer o bobol yn siarad Cymraeg, so yndi mae e’n broblem i’r iaith [yma] ond mae e’n fwy yn yr ardaloedd lle mae’r iaith wedi’i seilio.
“Dw i’n teimlo bod yna gyswllt nawr rhwng y gwahanol lefydd yng Nghymru, a bod yr achos yma nawr ar draws Gymru.”
Dywed Marc Flagg ei fod e’n awyddus i bobol weld y lluniau o’r tri chopa, a bod yna deimlad o undod a chysylltiad dros yr achos nawr.
“Nid jyst problem lan yn y gogledd yw e fi’n teimlo nawr, dw i’n edrych ymlaen nawr am y rali ym mis Tachwedd,” meddai, gan ychwanegu bod aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y brifddinas yn edrych ymlaen at groesawu pobol yno ar Dachwedd 13.
“Dydi pobol ddim yn dod i le hostile, mae yna broblemau gyda rhentu tai lawr fan hyn, peidiwch â bod yn unig gyda’r achos yma.
“Rydyn ni moyn estyn croeso, a gobeithio y bydd y rali wedyn yn dangos hynny a bydd pobol yn trafaelu lawr i Gaerdydd a theimlo’r croeso yn y Bae.”