Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu faint o arian trethdalwyr sydd wedi’i wario ar ddenu cwmni Ryanair yn ôl i faes awyr Caerdydd ar ôl absenoldeb o 15 mlynedd.
Daeth cadarnhad gan y cwmni Gwyddelig y byddan nhw’n ailgyflwyno teithiau rhwng Caerdydd a Dulyn, gwasanaeth a ddaeth i ben yn 2006, gydag Aer Arann yn cymryd drosodd cyn dod yn Stobart yn ddiweddarach.
Flybe oedd yn gyfrifol am y teithiau o 2016 tan iddyn nhw ddod i ben.
Cyhoeddodd Stobart Air yn gynharach eleni eu bod nhw’n bwriadu ailgyflwyno’r teithiau, ond aeth y cwmni i’r wal ym mis Mai.
Bydd y teithiau’n dechrau ddiwedd mis Hydref ac yn rhedeg yn ystod y gaeaf, ac mae disgwyl i fwy na 100,000 o deithwyr fanteisio arnyn nhw bob blwyddyn.
Bydd modd teithio rhwng Caerdydd a Dulyn bob dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sul o Hydref 31.
Mae’n bosib teithio i Gaeredin a Belffast o Gaerdydd hefyd ers dechrau’r flwyddyn, ac mae modd teithio hefyd i Barcelona, Malaga a Faro yn ystod misoedd yr haf.
Croeso gofalus
“Mae Ryanair yn dychwelyd i faes awyr Caerdydd yn newyddion i’w groesawu, ac rwy’n gobeithio ei fod yn cyfrannu rywfaint tuag at wella’r maes awyr sydd wedi ei chael hi’n anodd ac yn tanberfformio ers i Lywodraeth Lafur Cymru fynd ag e i berchnogaeth gyhoeddus yn 2013,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fodd bynnag, mae’n destun rhywfaint o bryder clywed fod y gweithredwr yn dychwelyd ond yn bosib trwy ‘ysgogiad angenrheidiol’, sydd ond yn golygu bod y maes awyr unwaith eto wedi bod yn taflu’r arian o gwmpas.
“Hoffwn weld rhywfaint o dryloywder a gwybod yn union pa ysgogiad sydd wedi’i gynnig.
“Mae gan drethdalwyr yr hawl i wybod faint o arian sydd wedi’i wario i ddenu Ryanair i faes awyr Caerdydd ac rwy’n annog gweinidogion Llafur i gyhoeddi’r manylyn hwn, yn enwedig gan fod y safle eisoes wedi elwa o bron i £150m.
“Rydym am weld maes awyr byrlymus, ond mae polisi Llafur o daflu arian cyhoeddus at gwmnïau awyr i’w denu nhw i’w maes awyr sy’n methu, yn ymddangos fel pe bai’n mynd yn groes i rethreg gweinidogion mewn meysydd polisi trafnidiaeth ac amgylcheddol eraill.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn falch bod Ryanair wedi penderfynu parhau â’u hediadau i Ddulyn gan ail-sefydlu’r llwybr pwysig hwn i faes awyr Caerdydd.
“Rydym wedi ymrwymo i gynnal capasiti hedfan yng Nghymru, oherwydd y manteision a ddaw yn ei sgil i economi Cymru, wrth gydnabod yr heriau y mae hyn yn eu creu ar gyfer cyrraedd ein targedau ar ddatgarboneiddio.”