Mae brechlyn Covid-19 cwmni Moderna wedi ei gymeradwyo ar gyfer plant rhwng 12 a 17 oed yn y Deyrnas Unedig.

Dywed yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fod y brechlyn yn “ddiogel ac effeithiol” ar gyfer plant o’r oedrannau hyn.

Y brechlyn ‘Spikevax’ yw’r ail i gael ei farnu’n ddiogel ar gyfer unigolion yn y grŵp oedran hwn, ar ôl y brechlyn Pfizer.

Bydd y penderfyniad i ddosbarthu’r brechlyn nawr yn cael ei wneud gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dosbarthu brechlyn i blant 16 a 17 oed, ond dim ond unigolion bregus rhwng 12 a 15 sy’n cael eu himiwneiddio ar hyn o bryd.

Cyhoeddiad

“Rwy’n falch o gadarnhau bod y brechlyn Covid-19 sy’n cael ei wneud gan Moderna bellach wedi’i gymeradwyo ymhlith pobl ifanc 12 i 17 oed,” meddai. Dr June Rain, prif weithredwr yr MHRA, wrth gyhoeddi’r newyddion.

“Mae’r brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer y grŵp oedran hwn.

“Mae gennym ni strategaeth ar waith ar gyfer monitro diogelwch yr holl frechlynnau Covid-19 sydd wedi eu cymeradwyo gan y Deyrnas Unedig, ac mae’r monitro hyn yn cynnwys grŵp oedran 12 i 17 oed.”

‘Croesawu’r newyddion’

Dywed llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu bod yn dilyn cyngor ynglŷn â’r brechlyn newydd.

“Rydym yn croesawu’r newyddion bod brechlyn Moderna wedi’i gymeradwyo fel un diogel ac effeithiol i bobl 12 oed a hŷn,” meddai.

“Fel sydd wedi digwydd gyda phob cymeradwyaeth arall, bydd y JCVI yn ein harwain ar ôl inni ofyn am argymhelliad ffurfiol ynghylch rhoi’r brechlyn hwn i bobl rhwng 12 a 17 oed.

“[Y trefniadau presennol] yw bydd pob person ifanc rhwng 16 a 17 oed, plant bregus rhwng 12 a 15 oed, ac unigolion sy’n byw gydag oedolion sydd â gwrthimiwnedd yn cael cynnig dos cyntaf o bigiad Pfizer erbyn dydd Llun, 23 Awst.”