Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ yn galw ar Lywodraeth Prydain i warchod newyddiadurwyr sy’n ffoi o Affganistan drwy gynnig lloches iddyn nhw.

Ar ôl i’r Taliban gymryd rheolaeth o’r wlad, mae newyddiadurwyr a’r rheiny sy’n gweithio yn y cyfryngau’n wynebu bygythiadau a thrais.

Yn ôl adroddiadau, mae cyrchoedd eisoes wedi’u cynnal ar gartrefi pobol yn y brifddinas Kabul, gyda thri o newyddiadurwyr wedi’u cipio oddi yno.

Mae nifer o newyddiadurwyr bellach yn cuddio, ac mae newyddiadurwyr benywaidd yn cael eu hatal rhag gohebu.

Mae mwy na 140 o gwmnïau wedi’u cau trwy orfodaeth neu wedi’i cymryd drosodd gan y Taliban, ac mae dros 1,000 o newyddiadurwyr a gweithwyr yn y cyfryngau wedi colli eu swyddi.

Cynnig cymorth

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, gynnig cynllun newydd i gefnogi newyddiadurwyr a gweithwyr yn y cyfryngau yn Affganistan, ond prin iawn yw’r manylion hyd yn hyn.

Mae’r NUJ wedi bod yn cydweithio’n agos â’r BBC wrth i’r sefyllfa yn Affganistan, lle mae gan y Gorfforaeth dîm yn Kabul, gael ei monitro.

Fe fu sôn ers pedwar mis am symud gwaith golygyddol o Kabul i Delhi yn India, ond dim ond ar gyfer rhyw 26 aelod o staff, gyda’r gweddill yn cael cynnig setliad ariannol.

Ond mae’r NUJ bellach yn mynnu bod holl staff y BBC yn Affganistan a’u teuluoedd yn cael dod i wledydd Prydain.

‘Annigonol, annelwig a diffyg brys’

“Mae gweithgarwch y llywodraeth hyd yn hyn wedi bod yn annigonol, yn annelwig â diffyg brys,” meddai Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ.

“Mae hyn yn cyfrannu’n ddiangen at y niwed a’r ofn i newyddiadurwyr a’u teuluoedd.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth roi cymorth brys yn ei le i sicrhau mynediad i’r maes awyr ac i awyrennu milwrol yn ôl i’r Deyrnas Unedig.

“Mae hynny’n golygu bod rhaid cymeradwyo fisas yn gyflym, rydym eisoes wedi gweld gormod o ddiwrnodau heb weithredu.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd gynnig fisas i newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau yn Affganistan sydd â chysylltiadau â chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

“O ystyried eu rôl allweddol yng Nghynghrair Ryddid y Cyfryngau, galwn ar y llywodraeth i arwain y gwaith rhyngwladol wrth symud ymlaen i amddiffyn a monitrio rhyddid y wasg yn Affganistan a chefnogi’r newyddiadurwyr hynny fydd yn aros.”