Mae’r heddlu’n ymchwilio i fygythiad a wnaed yn erbyn Chris Elmore, Aelod Seneddol Llafur etholaeth Ogwr.
Wrth siarad ar bodlediad ITV Cymru The New Normal sydd wedi’i gyflwyno gan Adrian Masters, fe ddywedodd ei fod wedi cael rhybudd gan etholwr yn dweud “na ddylai fod yn cerdded y strydoedd gyda’r nos”.
Fe ychwanegodd na ddylai bygythiadau o drais fel hyn cael eu derbyn fel rhan o’r swydd.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu hysbysu o’r bygythiad.
“Cefais i fygythiad dim ond 10 diwrnod yn ôl,” meddai Chris Elmore.
“Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i etholwr sy’n fy rhybuddio na ddylwn fod yn cerdded o amgylch y strydoedd yn y nos ac fe awgrymodd [y person] eu bod yn gwybod ble rwy’n byw. Ac mae hynny’n destun ymchwiliad.
“Rwy’n casáu’r ymadrodd hwn ‘Mae’n rhan o’r swydd’; dyw e ddim yn rhan o’r swydd. Ond rwy’n ofni bod gwleidyddion yn meddwl ei fod yn rhan o’r swydd.”
“A dw i wir yn meddwl na all hynny fod yn rhan o’r ‘normal newydd’ – i gyd-fynd ag enw’r podlediad hwn – all hwn ddim bod yn rhan o’r normal newydd, ble mae bygythiadau’n cael eu derbyn os ydych chi mewn bywyd cyhoeddus.”
Camau deddfwriaethol
Mae Chris Elmore yn bwriadu canolbwyntio ar Fesur Niwed Ar-lein pan fydd yn dychwelyd i San Steffan yn yr hydref.
Dywed fod cam-drin ar-lein yn broblem “enfawr ac mae’n tyfu ac nid yw’n gwahaniaethu beth bynnag yw eich cefndir, pwy ydych chi neu o ble rydych chi’n dod”.
“Rwy’n credu ei fod yn cael llawer mwy o effaith ar fenywod. Ond rydych chi’n gweld beth sy’n digwydd i bêl-droedwyr du a’r gamdriniaeth maen nhw’n ei hwynebu. A dyw e ddim yn mynd i ffwrdd,” meddai.
Dywed fod y ddeddfwriaeth yn “arwyddocaol iawn ac rydym yn ceisio rheoleiddio llwyfannau digidol gan geisio dod o hyd i ffyrdd o ddelio ag anhysbysrwydd sydd wir angen mynd i’r afael â hyn ar frys”.
Ymdriniaeth o fenywod
Yn siarad ar y podlediad hefyd roedd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Roeddwn i’n weithiwr cymdeithasol am 27 o flynyddoedd ac mae’n sicr yn rhan o fframwaith y sector cyhoeddus ble mae pobol yn credu ei bod yn iawn i gam-drin pobol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac sy’n rhoi gwasanaeth cyhoeddus, ond nid yw hynny’n wir,” meddai.
“Felly mae’n rhaid i ni barhau i sefyll yn erbyn hynny.”
Yn ddiweddar, mae’r cyn-Ysgrifennydd Addysg Addysg Kirsty Williams wedi sôn am ei phrofiad o gael ei cham-drin ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd hi ar bodlediad Walescast BBC Walesnad oedd hi’n teimlo ei bod yn gallu cadw ei theulu yn ddiogel rhag y gamdriniaeth roedd hi’n ei ddioddef ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd fod “sarhad o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn gwaethygu” ac er na fyddai hi’n annog ei merched i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth, y byddai hi’n poeni pe bydden nhw’n mynd i’r maes hwnnw.
Yn anffodus, meddai, mae’r fath sarhad yn rhywbeth sydd yn gorfod cael ei dderbyn gan wleidyddion benywaidd.