Mae dyn 28 oed o Hampshire wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ym Mhontneddfechan ger Glyn-nedd ddoe (dydd Llun, Awst 16).

Roedd e wedi bod yn y dŵr ger y rhaeadr am oddeutu 1.20yp.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.