Mae elusen MIND Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
Mae data gan y BBC yn dangos bod atgyfeiriadau i wasanaethau cymorth wedi gostwng o 72% yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
Mae pryderon nad yw’r niferoedd yn genedlaethol ddim wedi cynyddu eto i’w lefelau cyn y pandemig, gyda rhai yn dadlau bod hynny oherwydd diffyg adnoddau.
Roedd byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda ac Aneurin Bevan yn parhau i atgyfeirio o gwmpas 20% yn llai o bobl o’i gymharu â Chwefror y llynedd – fis yn unig cyn y cyfnod clo.
Er hynny, mae rhai byrddau iechyd lleol yng Nghymru wedi gweld cynnydd ar niferoedd yr atgyferiadau fis Chwefror y llynedd, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cofnodi cynnydd o 47%.
Angen gweithredu ‘ar frys’
Mae Glenn Page, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd MIND Cymru, yn dweud bod y ffigyrau hyn yn “ddigynsail” hyn ac mae’n galw am weithredu ar unwaith.
“Mae yna rai grwpiau sydd wedi cael eu heffeithio’n arbennig o negyddol trwy gydol hyn ac mae angen gweithredu ar frys wedi’i dargedu i fynd i’r afael â hynny,” meddai.
“Rwy’n siarad am bobol sy’n byw mewn tlodi, plant a phobol ifanc, pobol sydd â phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a phobol o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig hefyd.
“Yr hyn y mae angen i ni ei weld ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yw llawer mwy o fuddsoddiad fel bod y gallu a’r adnoddau yn y gwasanaethau hynny i ateb y galw presennol ac yn y dyfodol.”
‘Blaenoriaethu’ iechyd meddwl
Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn ceisio ymateb i heriau’r pandemig.
“Rydyn ni wedi darparu £42m ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl eleni ac mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir y byddwn yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl,” meddai.
“Mae gennym ni hefyd Ddirprwy Weinidog ymroddedig dros Iechyd Meddwl a Lles i yrru gwelliannau pellach yn eu blaenau.
“Mae ein cynllun Law yn Llaw at Iechyd Meddwl hefyd yn amlinellu gweithredoedd mewn ymateb i effaith pandemig Covid-19.
“Fodd bynnag, mae ymateb i’r newid mewn anghenion iechyd meddwl ac emosiynol yn gofyn am ddull aml-asiantaeth ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyflawni hyn.”