Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yg Nghymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau croeso i ffoaduriaid o Affganistan dros y misoedd nesaf.

Mae’r Taliban bellach wedi cael rheolaeth dros rannau helaeth o Affganistan, gan gynnwys y brifddinas Kabul.

Roedden nhw wedi llwyddo i wneud cynnydd yn y wlad wrth i gannoedd o filwyr gael eu galw’n ôl oddi yno.

Mae disgwyl y bydd Boris Johnson yn cyhoeddi cynllun lloches ar gyfer y ffoaduriaid mwyaf bregus maes o law.

‘Hynod o ofidus’

Dywed Jane Dodds, a oedd yn arfer gweithio i’r Cyngor Ffoaduriaid, ein bod ni’n gweld “trychineb dyngarol” yn Affganistan.

“Mae’r Taliban yn dychwelyd i rym yn Affganistan yn mynd i arwain at safonau hawliau dynol erchyll, yn enwedig i fenywod a grwpiau lleiafrifol,” meddai.

“Mae meddwl am gymaint o bobl yn colli eu rhyddid fel hyn yn hynod o ofidus.

“Er bod y grym yn nwylo San Steffan yn y bôn, mae’n rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn rhoi cymorth i ffoaduriaid sy’n dianc oddi wrth y Taliban.

“Mae gan Gymru hanes balch o helpu’r rhai sydd mewn angen, ac mae’n rhaid i ni gyflawni ein dyletswyddau moesol a chofleidio’r rheiny sy’n ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig plant a’u teuluoedd.

“Yng Nghanada, cyhoeddodd y Prif Weinidog Justin Trudeau y bydd ei wlad yn croesawu 20,000 o ffoaduriaid – rhywbeth y dylai’r Deyrnas Unedig a chenhedloedd eraill o’r un anian geisio ei efelychu.”