Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi cynllun i roi lloches i bobl fregus Affganistan yn y Deyrnas Unedig, meddai Downing Street.

Yn y cyfamser, parhau mae’r ymdrechion i symud dinasyddion Prydeinig a staff cynorthwyol eraill yn ôl i’r DU.

Dywedodd Rhif 10 y byddai’r Prif Weinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynllun ffoaduriaid yn y dyddiau nesaf, ac mae disgwyl i’r polisi ganolbwyntio ar roi cymorth i fenywod a merched ifanc.

Yn ôl The Telegraph, fe fyddai’r cynllun yn debyg i’r un gafodd ei ddefnyddio i roi lloches i ffoaduriaid Syria yn 2015, gan roi’r flaenoriaeth i fenywod gyda phlant, pobl gyda chyflyrau meddygol difrifol a rhai oedd wedi eu harteithio.

Milwyr ychwanegol

Yn Affganistan, mae disgwyl i 200 o filwyr ychwanegol o’r DU gael eu hanfon yno i ymuno a’r 700 o aelodau’r lluoedd arfog sydd eisoes yno, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Llun (16 Awst).

Fe fyddan nhw’n rhan o’r ymgyrch i ddod a dinasyddion Prydeinig yn ôl i’r DU a sicrhau diogelwch rhai o bobl Affganistan ar ôl i’r Taliban feddiannu’r brifddinas Kabul.

Daw’r penderfyniad i anfon milwyr ychwanegol yn dilyn golygfeydd o anhrefn llwyr ym maes awyr Kabul gyda rhai yn ceisio dringo ar awyren filwrol yr Unol Daleithiau wrth iddi adael. Bu farw saith o bobl.

Serch y datblygiadau diweddaraf, mae’r Arlywydd Joe Biden wedi mynnu ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir i dynnu lluoedd yr Unol Daleithiau o Affganistan, gan roi addewid na fyddai’n caniatáu i’r rhyfel fynd ymlaen am “drydydd degawd”.

Mae Boris Johnson yn galw ar arweinwyr yr G7 i sicrhau nad yw Affganistan yn dod yn ffynhonnell ar gyfer bygythiadau brawychol rhyngwladol unwaith eto, ac yn galw ar y gwledydd i gydweithio, meddai Rhif 10.

Yn y cyfamser dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab na fyddai’n diystyru cyflwyno sancsiynau yn erbyn y Taliban os ydyn nhw’n gwrthod cydweithio’n rhyngwladol.