Mae teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn pryderu am effaith toriadau i’r gyllideb arnyn nhw, yn ôl elusen.
O fis Hydref, bydd yr £20 wythnosol a gafodd ei ychwanegu i’r gyllideb yn ystod y pandemig yn cael ei dorri, fel rhan o’r hyn sy’n cael ei weld fel y toriadau mwyaf i ofal cymdeithasol ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl arolwg gan Achub y Plant, mae 47% o’r rhai sy’n derbyn arian ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cyfateb i tua 3m o bobl, yn credu na fydden nhw’n gallu ymdopi â’r toriadau hyn.
Hefyd, roedd 61% yn dweud y byddai’r toriadau’n gwneud hi’n anoddach i brynu bwyd, tra bod 48% yn cyfaddef y bydden nhw’n ei chael hi’n anodd talu biliau hanfodol.
Mae ymchwil arall gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi canfod bydd traean o aelwydydd sydd â phlant yng Nghymru yn colli £1,000 y flwyddyn o’i hincwm yn sgil y toriadau a diwedd y cynllun ffyrlo.
£20 yn ‘gwneud gwahaniaeth’
Mae elusen Achub y Plant wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu’r cynlluniau ar gyfer cyllideb y Credyd Cynhwysol.
“Mae’r cynnydd o £20 yr wythnos wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae nifer yn dibynnu arno i brynu hanfodion fel bwyd a dillad ac i dalu biliau,” meddai Melanie Simmonds, pennaeth yr elusen.
“Hebddo, bydd nifer yn ychwanegol yn cael eu gwthio i dlodi.
“Rydym yn pwyso ar lywodraeth San Steffan i roi gorau i’r cynllun i dorri’n ôl ar yr £20 yn ychwanegol sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r Credyd Cynhwysol, o gofio fod rhieni a phlant yn cael amser caled ohoni ar y funud.”
Canfyddiadau eraill
Roedd 43% yn dweud y byddai prynu dillad yn fwy anodd, gyda 37% yn dweud y byddai talu am eitemau fel teganau a llyfrau yn fwy anodd hefyd.
Fe ddangosodd yr arolwg nad oedd llacio’r cyfyngiadau wedi bod o gymorth i bob teulu, gyda 39% yn dweud eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd talu am bethau sylfaenol fel bwyd a thalu rhent dros y chwe mis diwethaf.