Roedd cynnydd pellach yn nifer y bobl mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf er bod y cynllun ffyrlo’n dechrau dod i ben.

Yn ol y Swyddfa Ystadegau Gwladol fe fu cynnydd o 182,000 o bobol sy’n cael eu cyflogi yn y Deyrnas Unedig rhwng Mehefin a Gorffennaf.

Er hynny, roedd 201,000 yn llai o bobol mewn gwaith ym mis Gorffennaf eleni o gymharu â chyn y pandemig.

Mae’r ystadegau’n dangos fod cyfradd diweithdra wedi gostwng i 4.7% dros y tri mis yn arwain at ddiwedd Mehefin.

Roedd dadansoddwyr wedi rhagweld y byddai’r gyfradd diweithdra yn aros ar 4.8% yn ystod y chwarter.

Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol nodi bod cynnydd mewn swyddi gwag wrth i’r economi ailagor, gyda chynnydd o 290,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Yng Nghymru roedd 6,000 yn llai o bobl yn ddiwaith o’i gymharu a thri mis yn ol. Roedd 62,000 heb waith a 68,000 yn dal yn rhan o’r cynllun ffyrlo.

“Neidio’n ôl”

“Mae’r byd gwaith yn parhau i adfer yn gryf wedi effeithiau’r pandemig,” meddai Jonathan Athow, dirprwy ystadegydd cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Roedd cynnydd cryf eto yn nifer y bobol ar restrau gweithwyr, ac mae’r rhif wedi codi dros hanner miliwn yn y tri mis diwethaf, gan adennill tua phedwar rhan o bump o’r gostyngiad a welwyd ar ddechrau’r pandemig.

“Yn y cyfamser, mae ystadegau cynnar yr arolwg yn dangos bod nifer y swyddi gwag wedi pasio’r miliwn am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf.

“Nid oedd yna arwydd fod mwy o ddiswyddiadau yn ein data o’r arolwg cyn i’r rhaglen ffyrlo ddechrau dod i ben, ac mae ystadegau’r Gwasanaeth Methdaliadau ar gyfer Gorffennaf yn awgrymu’r un fath.”

“Calonogol”

Wrth ymateb i’r ffigurau heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething eu bod yn parhau i fod yn “galonogol”, gyda diweithdra yng Nghymru yn is nag yn y chwarter blaenorol ac yn aros yn is na’r ffigur ar gyfer y DU.

“Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai heriau gwirioneddol yn dal i wynebu economi Cymru o ganlyniad i’r Coronafeirws ac ymadawiad y DU â’r UE. Rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

“Fel rhan o’n hymdrechion i roi hwb i adferiad economaidd cryf, rydym am helpu i greu swyddi newydd yn niwydiant y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ledled Cymru. Yn benodol, mae gennym ffocws clir ar gefnogi pobl ifanc i gael gwaith. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein Gwarant i Bobl Ifanc, fydd yn rhoi’r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed, gan roi’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i gyflawni eu potensial.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i adeiladu economi gryfach, wyrddach a mwy llewyrchus, mewn Cymru decach i bawb.”