Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi dod o hyd i ddynes oedd ar goll o Lanfrynach, Aberhonddu.
Roedd Sarah, sydd yn ei 30au hwyr, wedi bod ar goll ers bore ddoe (Dydd Llun, 16 Awst).
Dywed yr Heddlu eu bod bellach wedi dod o hyd iddi’n ddiogel.