Mae Seland Newydd wedi cyflwyno cyfnod clo cyflym yn dilyn un achos o’r coronafeirws – y cyntaf ers misoedd.
Fe gyhoeddwyd y bydd Seland Newydd yn symud i lefel rhybudd 4 o 11.59pm heno (nos Fawrth, 17 Awst) yn dilyn un achos positif o Covid yn Auckland.
Fe fydd y cyfnod clo yn para am dri diwrnod ond hyd at saith diwrnod yn Auckland a Coromandel. Yn ôl swyddogion iechyd nid oes gan y person gysylltiad ag unrhyw un arall y tu allan i’r wlad.
Mae’r Prif Weinidog Jacinda Ardern eisoes wedi dweud y byddai’n gweithredu’n gadarn os oedd unrhyw achosion o’r amrywiolyn Delta yn Seland Newydd, gan gynnwys cyflwyno cyfnodau clo.
Cafodd yr achosion diwethaf eu cofnodi yn Seland Newydd ym mis Chwefror, a 26 o farwolaethau sydd wedi bod yn y wlad ers dechrau’r pandemig.