Erbyn hyn, mae cadarnhad fod 1,419 o bobol wedi marw yn sgil daeargryn pwerus yn Haiti dros y penwythnos.

Mae nifer y bobol gafodd eu hanafu wedi codi i 6,000 hefyd, yn ôl Asiantaeth Amddiffyn Wladol y wlad.

Fe wnaeth y daeargryn, a oedd yn mesur 7.2 ar raddfa Richter, ddinistrio miloedd o gartrefi, swyddfeydd, eglwysi ac adeiladau eraill.

Mae’n bosib i’r dinistr waethygu wedi i Storm Drofannol Grace gyrraedd Haiti dros nos (dydd Llun, 16 Awst), ac roedd disgwyl gwyntoedd cryfion, glaw trwm, tirithriadau a llifogydd sydyn.

Gallai hyd at 15 modfedd o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

“Rydyn ni’n gweithio nawr i sicrhau fod yr adnoddau sydd gennym ni ar y funud yn mynd i gyrraedd y llefydd sydd wedi’u taro waethaf,” meddai Jerry Chandler, pennaeth yr Asiantaeth Amddiffyn Wladol.

Cyfeiriodd at daleithiau Cayes, Jeremie a Nippe, sydd yn ne orllewin y wlad, fel y rhai sydd wedi’u heffeithio waethaf.

Llun o'r awyr yn dangos peth o'r dinist yn Haiti yn 2011

O leiaf 304 o bobol wedi marw yn dilyn daeargryn yn Haiti

O leiaf 1,800 o bobol wedi’u hanafu, a channoedd o gartrefi wedi’u dinistrio