Mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried cynlluniau i gynhyrchu hydrogen er mwyn symud tuag at danwydd carbon-isel.
Erbyn 2050, gallai hydrogen fod yn gyfrifol am 20-35% o’r ynni fydd yn cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig, gan chwarae rhan allweddol wrth gynnig opsiwn gwahanol i olew a nwy mewn diwydiannau, llongau a lorïau HGV.
Ond wrth i weinidogion amlinellu eu cynlluniau, roedd galwadau arnyn nhw i ganolbwyntio ar fersiwn gwyrddach o’r tanwydd, sy’n cael ei greu gan ddefnyddio cynnyrch adnewyddadwy – yn hytrach na dibynnu ar greu tanwydd o nwy naturiol a fyddai’n creu allyriadau carbon.
Mae hydrogen yn ddrytach i’w gynhyrchu na thanwyddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a byddai’r Llywodraeth yn talu cymorthdaliadau i bontio’r bwlch ariannol.
Hyd yn hyn, dydi hi ddim yn amlwg beth fyddai gwerth y cymorthdaliadau na sut y bydden nhw’n cael eu talu – o’r Trysorlys drwy drethi neu drwy ardollau defnyddwyr.
Dywedodd San Steffan y byddai eu strategaeth hydrogen, sy’n cynnwys amserlen ar gyfer datblygu’r tanwydd dros y degawd nesaf, yn cefnogi dros 9,000 o swyddi ac yn cyfrannu £900 miliwn at economi’r Deyrnas Unedig erbyn 2030.
Maen nhw’n cynnig eu bod nhw’n datblygu hydrogen “gwyrdd” heb allyriadau, sy’n cael ei greu gan ddefnyddio pŵer adnewyddadwy, yn ogystal â hydrogen “glas” sy’n defnyddio nwyon tanwydd ffosil ac yn gallu bod yn garbon isel drwy ddefnyddio technoleg sy’n storio allyriadau dan ddaear.
Mae’r ffocws ar hydrogen glas, sydd ddim mor lân â hydrogen gwyrdd ond yn rhatach i’w gynhyrchu, wedi arwain at feirniadaeth gan ymgyrchwyr amgylcheddol a’r diwydiant adnewyddadwy.
“Chwyldro hydrogen”
“Mae heddiw’n nodi dechrau chwyldro hydrogen y Deyrnas Unedig,” meddai Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes ac Ynni San Steffan.
“Mae gan y ffynhonnell ynni gartref, lân hon y potensial i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n pweru ein bywydau a bydd yn hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a chyrraedd sero-net.
“Gyda’r potensial i gyflenwi traean o ynni’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, mae ein strategaeth yn rhoi’r Deyrnas Unedig yn gyntaf yn y ras fyd-eang i gynyddu’r defnydd o dechnegol hydrogen a sicrhau’r miloedd o swyddi a’r buddsoddiad preifat sy’n dod gyda hynny.”
“Syniad drwg”
Dim ond dŵr sy’n cael ei greu fel sgil-gynnyrch wrth ddefnyddio hydrogen fel pŵer, ond gan nad oes llawer o storfeydd hydrogen naturiol, mae’n rhaid ei greu o nwy naturiol neu drwy ddefnyddio trydan er mwyn ei greu o ddŵr.
“Mae hydrogen sy’n cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy wir yn garbon isel, a wir yn ddefnyddiol mewn rhan rhannau o’r economi lle mae trydanu’n anodd,” meddai Dr Doug Parr, prif wyddonydd Greenpeace UK.
Ond rhybuddiodd y byddai cynhyrchu lot o hydrogen drwy nwyon ffosil yn caethiwo’r Deyrnas Unedig mewn seilwaith drud, a chyfeiriodd at astudiaeth o’r Unol Daleithiau sy’n awgrymu y gallai creu hydrogen glas greu allyriadau carbon uwch na llosgi nwy naturiol.
“Felly mae’r pwyslais ar y rhan hwnnw yng nghynllun y Llywodraeth yn edrych fel syniad drwg yn amgylcheddol ac economaidd.”