Roedd 22 o’r marwolaethau a fu yng Nghymru yn yr wythnos yn gorffen 6 Awst yn ymwneud â Covid-19, cynnydd o’r 13 a fu yn yr wythnos flaenorol, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 3.5% o’r holl dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru ar gyfer yr wythnos honno, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yng Nghymru a Lloegr, cafodd Covid ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 527 o bobol yn yr wythnos yn gorffen ar 6 Awst.

Roedd hyn yn gynnydd o 30% ers yr wythnos flaenorol, a dyma’r cyfanswm uchaf ers y 719 o farwolaethau yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth.

Yn ystod yr wythnos yn gorffen ar 6 Awst, roedd tua un ymhob 20 (5.2%) o dystysgrifau marwolaethau Cymru a Lloegr yn crybwyll Covid-19, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bu 50 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 ymysg preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos honno, cynnydd bach o’r 49 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Rhwng 13 Mawrth 2020 a 6 Awst 2021, bu 51,962 o farwolaethau yng Nghymru; ac allan o’r rhain, roedd 7,964 ohonyn nhw’n crybwyll Covid-19 (15.3%).

Roedd cyfanswm y marwolaethau 5,182 yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.