Mae Llywodraeth Cymru am atal y defnydd o danwydd ffosil i wresogi cartrefi cymdeithasol newydd.

O 1 Hydref, dim ond ynni adnewyddadwy neu dechnolegau arloesol fydd yn cael ei ddefnyddio mewn tai cymdeithasol sydd newydd eu hadeiladu.

Mae’r cam hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel ansawdd uchel i’w rhentu dros y pum mlynedd nesaf.

Maen nhw hefyd wedi llunio gofynion ansawdd datblygu ar gyfer tai newydd, gyda’r uchelgais o gael datblygwyr preifat i fabwysiadu’r safonau hynny erbyn 2025.

Bydd angen i dai newydd fod yn gynaliadwy a chyrraedd safonau effeithlonrwydd er mwyn lleihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd.

‘Arloesi’

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi dweud bod angen i gartrefi newydd gyflawni targedau amgylcheddol yn ogystal â bod o safon byw uchel.

“Mae ein safonau adeiladu ‘Mannau a Chartrefi Prydferth’ newydd yn dangos y camau beiddgar ac uniongyrchol yr ydym yn eu cymryd wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd,” meddai.

“Bydd y ffordd yr ydym yn byw ac yn gwresogi ein cartrefi dros y blynyddoedd nesaf yn ganolog wrth gyrraedd ein nodau sero-net.

“Mae lleihau effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ond felly hefyd mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y rhyngrwyd yn eu cartrefi, a chael digon o le i fyw’n dda.

“Mae’r safonau hyn yn sicrhau bod yr holl dargedau hyn yn cael eu cyrraedd gan eu bod yn adlewyrchu ein ffyrdd modern o fyw a newidiadau o ran anghenion ffordd o fyw.

“Gan ddefnyddio dulliau adeiladu a dylunio arloesol, mae gennyf bob hyder y bydd y sector tai cymdeithasol yn arloesi o ran y safonau uchelgeisiol, wrth iddynt gyflawni ein haddewid i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i’w rhentu dros y pum mlynedd nesaf.”