Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod mesurau diogelwch mewn lle ar ol i lyncdwll ymddangos mewn afon yn Llanelli ddoe, (16 Awst_.

Roedd wedi golygu bod holl lif dŵr yr Afon Lliedi wedi cael ei lyncu o dan bont yn ardal Llanerch y dref.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ymateb i’r digwyddiad a rhoi mesurau diogelwch ar waith i amddiffyn diogelwch.

Maen nhw bellach wedi gosod pwmp i adfer dŵr o’r twll er mwyn cyflenwi llif i’r afon.

Mae’r Awdurdod Glo wedi eu galw fore heddiw (17 Awst) i asesu’r sefyllfa.

Y gwaith adfer yn Afon Lliedi neithiwr (16 Awst)

Dywedodd Ioan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn gweithio ar hyn o bryd i atal niwed biolegol yn yr afon.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin i ddeall beth sy’n digwydd ac i roi camau diogelwch ar waith,” meddai.

“Gallwn gadarnhau bod tua 50 o bysgod marw wedi cael eu gweld yn yr ardal gyfagos.

“Gwelwyd pysgod byw mewn pyllau bach yn sianel yr afon i lawr yr afon.

“Rydym yn gobeithio y bydd pwmpio llif yr afon y tu hwnt i’r twll yn lleihau nifer y pysgod y bydd yn marw, drwy ddarparu rhywfaint o lif yr afon i’r pysgod sydd wedi’u dal mewn pyllau bach.”