Mae plentyn dwy oed wedi marw mewn digwyddiad yng Nglannau Dyfrdwy.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Ninas Gardd, Sir Y Fflint, ar ôl 10yh neithiwr (nos Lun, Awst 16).
Fe gafodd plentyn ei gludo i ysbyty yng Nghaer, cyn cael ei symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n disgrifio’r farwolaeth fel un “heb esboniad” ar hyn o bryd ac yn ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad.
“Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 10yh nos Sadwrn gan gydweithwyr Ambiwlans, i ddigwyddiad yn ymwneud â phlentyn 2 oed mewn tŷ yn Ninas Gardd, Glannau Dyfrdwy,” meddai’r heddlu mewn datganiad.
“Fe gafodd y plentyn ei gludo i’r ysbyty yng Nghaer gan staff Ambiwlans ac yna fe gafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl, lle yn anffodus buodd farw neithiwr.
“Ar hyn o bryd mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad, ac rydyn ni’n gweithio gydag ein hasiantaethau partner i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad.”