Mae Heddlu Dyfed-Powys yn galw ar bobol â jet-sgi i beidio ag aflonyddu bywyd gwyllt yn nyfroedd Cymru.

Gan fod diwedd yr haf a dechrau’r hydref yn adegau prysur i fywyd gwyllt y môr yng Nghymru, maen nhw’n dweud ei bod hi’n hollbwysig fod pobol yn ymwybodol o’r ffordd gywir o ymddwyn er mwyn sicrhau bod anifeiliaid a mamaliaid y môr yn ddiogel.

Mae gan jet-sgi y potensial i achosi problemau i famaliaid ac adar y môr, ond mae’r rhybuddion yn berthnasol i gychod, llongau, caiacwyr a rhwyfwyr bwrdd hefyd.

Bydd tymor bwrw morloi llwyd yn cychwyn yn Sir Benfro cyn bo hir, a mae’n hollbwysig fod pobol yn osgoi’r traethau lle mae’r lloi yn cael eu geni a’r dyfroedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai’r heddlu.

Os yw pobol yn dod ar draws dolffiniaid, morloi a llamidyddion (porpoises), mae’n bwysig cadw pellter, osgoi dod rhwng mam a lloi bach, a pheidio â chwrso anifeiliaid.

Mae nifer o’r anifeiliaid hyn a’u safleoedd magu’n cael eu gwarchod gan y gyfraith, a gall aflonyddu, boed yn fwriadol ai peidio, arwain at erlyniad.

‘Camau cyfreithiol’

Eisoes, mae achosion o aflonyddu ar fywyd gwyllt y môr wedi’u cofnodi mewn sawl lleoliad ledled Cymru gan gynnwys yn Sir Benfro, yn enwedig gan fod arfordir Cymru’n brysurach nag erioed wrth i bobol fethu â mynd dramor.

“Mae Arfordir Sir Benfro’n ardal bwysig ar gyfer mamaliaid morol ac adar y môr sy’n nythu, ac maent yn cael eu diogelu gan y gyfraith yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Rhingyll Matthew Langley o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys.

“Maen nhw’n sensitif i aflonyddu gan beiriannau môr megis sgïau jet, caiacau a chychod cyflym.

“Gan weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn annog pawb i fwynhau ein dyfroedd a chadw pellter diogel wrth anifeiliaid morol, adar y môr a’u hardaloedd nythu.

“Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau gweithredu cyfreithiol os bydd angen.”

‘Diogel a pharchus’

RSPB Ynys Dewi sy’n gyfrifol am y 600 o loi bach fydd yn cael eu geni yn Sir Benfro bob blwyddyn, a’r 400 arall fydd yn cael eu geni o fewn Parth Cadwraeth Forol Skomer.

“Hoffem i gymaint o bobl â phosibl fwynhau’r bywyd gwyllt o gwmpas ein dyfroedd yn ddiogel a pharchus,” meddai Greg Morgan, Rheolwr Safle RSPB Ynys Dewi.

“Mae defnyddio capteiniaid lleol gan y llu o weithredwyr twristiaeth yn Sir Benfro’n ffordd ddelfrydol o wneud hyn gan fod pob capten wedi’i hyfforddi ac yn ymwybodol o faterion aflonyddwch morol.

“Fodd bynnag, os ydych chi allan yn eich cwch eich hun, cymerwch amser i ddod yn llwyr ymwybodol o God Morol Sir Benfro os gwelwch chi’n dda, neu, am olwg ar Gymru gyfan, galwch heibio i wefan Moroedd Gwyllt Cymru.

“Bydd ychydig funudau o ddarllen yn helpu i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o fywyd gwyllt, yn gweld mwy ac yn osgoi unrhyw berygl o erlyniad.”

Ymgyfarwyddo â chyfyngiadau

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn annog defnyddwyr dŵr i ymgyfarwyddo â’r cyfyngiadau mynediad sydd yn y mapiau cod Morol cyn mynd i’r môr.

“Mae’r ynysoedd yn safleoedd arbennig o sensitif, hyd yn oed pan fo adar y môr wedi mynd,” meddai Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a’r Môr gyda’r ymddiriedolaeth.

“Rydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth cwch teithwyr i Skomer lle bo’n bosibl, a chysylltu â’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ymlaen llaw os ydynt yn cyrraedd ar gwch preifat.”

“Rheoli cyflymder”

“O safbwynt diogelwch dŵr, hoffem ailadrodd yr angen i ddefnyddwyr peiriannau dŵr wneud hyn mewn modd diogel ac ystyriol, gan sicrhau eu bod yn rheoli eu cyflymder o fewn 100 medr o’r tir bob amser,” meddai Gary Nicholas, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Benfro.

“Gall sŵn a pherygl corfforol defnydd amhriodol o offer dŵr personol fod yn andwyol i lawer (dynion, anifeiliaid a’r amgylchedd) a gellid mynd i’r afael â’r mater yn hawdd drwy ystyried ble a sut y mae defnyddwyr yn cymryd rhan yn y gweithgarwch hwn.

“Yn hytrach na bod perchnogion tir yn gorfod ystyried rheoli mynediad at ddyfrffyrdd fel mesur rheoli yn y dyfodol, byddai’n well gennym pe bai unigolion yn ymddwyn yn unol â chod morol Sir Benfro.”