Mae cwmni technoleg o’r Unol Daleithiau am greu 26 o swyddi ym Mlaenau Gwent.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd cwmni SIMBA Chain yn agor canolfan newydd yng Nglyn Ebwy, gan greu swyddi sy’n ymwneud â thechnoleg Blockchain.

Drwy raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun yn elwa ar gyllid o £737,000 ac fe fydd y swyddi’n cynnig cyflog cyfartalog o £60,000.

Cafodd SIMBA Chain ei sefydlu yn 2017 i greu platfform cyfathrebu diogel a chyfrinachol ar gyfer lluoedd arfog yr Unol Daleithiau.

Erbyn hyn, mae wedi’i ehangu i gael sawl cytundeb gydag Adran Amddiffyn y wlad, a’u bwriad tymor hir yw mynd yn fyd-eang.

‘Ffyniant economaidd hirdymor’

“Drwy ein rhaglen uchelgeisiol, y Cymoedd Technoleg, rydyn ni wedi ymrwymo i ddenu, cefnogi ac ysgogi busnesau technoleg arloesol ym Mlaenau Gwent a’r cyffiniau,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Rwy’n falch iawn fod SIMBA Chain wedi gweld potensial enfawr yr ardal hon ac wedi penderfynu lleoli ei weithrediadau yn yr ecosystem sy’n gyfoethog o ran technoleg rydyn ni’n ei hadeiladu.

“Hoffen ni weld ffyniant economaidd hirdymor ar gyfer y trigolion, a’r swyddi medrus newydd hyn yw’r union fath o gyfleoedd cyflogaeth rydyn ni am eu cefnogi.

“Rwy’n dymuno’r gorau i SIMBA yn ei gynlluniau ehangu byd-eang.”

‘Newid y byd’

Dr Ian Taylor, sy’n Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd, yw un o gyd-sylfaenwyr a phrif swyddog technoleg cwmni SIMBA Chain.

Fe hefyd yw un o’r gorau yn y byd am ddylanwadu ar Blockchain.

“Mae’n anrhydedd creu cyfleoedd yng Nghymru i’r rhai sy’n frwd dros dechnoleg Blockchain,” meddai.

“Dyma ddyfodol diogelwch gwybodaeth ddigidol ac mae’n ffynhonnell gyrfaoedd cyffrous.

“Mae SIMBA Chain yn newid y byd yn llythrennol drwy wneud y dechnoleg hynod gymhleth hon yn hawdd ei defnyddio a’i chymhwyso ar draws pob platfform Blockchain mawr.

“A minnau wedi cael fy ngeni yng Nghymru, rwyf mor falch o weld ein cwmni’n sefydlu endid yng Nghymru ac yn helpu i gefnogi economi fywiog newydd yng Nghymru sy’n deall technoleg.”