Fe fydd tua 20,000 o ffoaduriaid Affganistan yn cael lloches yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi manylion y cynllun i’r rhai sydd a’r risg mwyaf o gael eu herlid gan y Taliban.

Cynyddu mae’r pryderon am y rhai hynny fu’n gweithio yn erbyn y Taliban yn Affganistan ers i Kabul gael ei chipio ddydd Sul ac mae galwadau cynyddol ar weinidogion i ddwysau’r ymdrech i achub y rhai sydd eisiau gadael y wlad.

Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni, gyda hyd at 20,000 yn y tymor hir.

“Dyled”

Fe fydd y Prif Weinidog yn annerch Aelodau Seneddol heddiw (dydd Mercher, 18 Awst) am yr argyfwng yn Affganistan ar ôl i Dy’r Cyffredin gael ei alw’n ol yn gynnar i drafod y sefyllfa.

“Mae arnom ddyled i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i wneud Afghanistan yn lle gwell dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

“Mae llawer ohonyn nhw, yn enwedig menywod, bellach angen ein help ar frys. Rwy’n falch bod y DU wedi gallu rhoi’r llwybr hwn ar waith i’w helpu nhw a’u teuluoedd i fyw’n ddiogel yn y DU,” meddai.

Mae disgwyl i’r cynllun roi blaenoriaeth i fenywod, plant ac eraill sydd wedi cael eu gorofdi i adael eu cartrefi neu’n wynebu bygythiadau gan y Taliban.

Wrth ymateb i’r cynllun dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy’n gadael Affganistan. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a chynghorau i gefnogi’r rhai mewn angen.”

Serch hynny mae’r gwrthbleidiau wedi dweud nad yw’r cynlluniau’n mynd yn ddigon pell ac yn rhy annelwig i wneud gwahaniaeth.

Yn eu cynhadledd newyddion cyntaf ers cipio grym yn y wlad, dywedodd y Taliban ddydd Mawrth y byddai’n sicrhau diogelwch y rhai sydd wedi gwrthwynebu’r grŵp yn y gorffennol, ac y byddai’n cynnal hawliau menywod.

Ond mae arbenigwyr wedi mynegi pryderon ac yn rhybuddio y gallai’r wlad ddod yn gyrchfan ar gyfer brawychiaeth unwaith eto.