Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno rheolau newydd i sicrhau gwell amgylchiadau i anifeiliaid fferm wrth gael eu cludo.
Mae’r mesurau newydd yn cynnwys uchafswm amseroedd teithio byrrach, mwy o le i anifeiliaid wrth gael eu cludo a rheolau llymach ynglŷn â chludo anifeiliaid mewn tymheredd eithafol.
Bydd y rheolau yn berthnasol i deithiau dros 40 milltir yn unig yng Nghymru a Lloegr.
Maen nhw wedi eu cyflwyno yn dilyn amheuon gan Adran yr Amgylchedd bod teithiau hir yn achosi niwed i anifeiliaid fferm sy’n cael eu cludo.
Mae’r Llywodraeth wedi cydweithio â’r diwydiant amaeth a grwpiau lles i ddatblygu’r safonau newydd.
Roedd cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn atal unrhyw wlad rhag newid ei rheolau ei hun ynghylch lles anifeiliaid, ond yn dilyn Brexit mae’r Deyrnas Unedig wedi bod yn gweithio i gryfhau’r mesurau.
Blaenoriaeth
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, wedi croesawu’r newidiadau gan San Steffan.
“Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Rydym yn falch o’n record ar gyflawni safonau uchel yn y maes hwn.
“Mae’r cynigion hyn yn mynd ymhellach eto i sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei amddiffyn trwy gydol eu hoes, gan gynnwys wrth eu cludo,
“Byddwn nawr yn gweithio gyda’r diwydiant i roi’r newidiadau ar waith.”