Roedd cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi gostwng i 2% ym mis Gorffennaf, o 2.5% ym mis Mehefin.

Ond roedd prisiau petrol, sydd ar eu huchaf ers bron i wyth  mlynedd, wedi gwthio chwyddiant yn uwch.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) bellach wedi cyrraedd targed Banc Lloegr. Roedd chwyddiant yn is yn dilyn gostyngiad mewn prisiau dillad dros yr haf.

Roedd arbenigwyr wedi darogan y byddai chwyddiant yn codi i 2.3% ym mis Gorffennaf.

Mae Banc Lloegr eisoes wedi rhybuddio y gallai chwyddiant godi i 3% erbyn diwedd y flwyddyn.

Pris petrol oedd y brif ffactor am y cynnydd mewn chwyddiant, yn ôl yr ONS, gyda phrisiau ar gyfartaledd yn 132.6 ceiniog y litr ym mis Gorffennaf 2021, o’i gymharu â 111.4 ceiniog y litr yn 2020.

Y pris ym mis Gorffennaf oedd yr uchaf i’w gofnodi ers mis Medi 2013.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sy’n fesur gwahanol ar gyfer chwyddiant, wedi cynyddu i 3.8%.