Mae Senedd San Steffan yn cael ei galw’n ôl yn ystod yr haf heddiw (ddydd Mercher Awst 18) er mwyn trafod y sefyllfa yn Affganistan.
Doedd dim disgwyl i Aelodau Seneddol ddychwelyd tan 6 Medi, ond mae’r penderfyniad yn dilyn pwysau gan y gwrthbleidiau a beirniadaeth ar bolisi’r Llywodraeth.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, ar ôl cais gan y Llywodraeth.
Bydd Tŷ’r Arglwyddi hefyd yn dychwelyd yn gynnar.
Cafodd Tŷ’r Cyffredin ei alw’n ôl y tro diwethaf ym mis Ebrill i dalu teyrnged i’r diweddar Dug Caeredin, ond dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn ystod gwyliau’r haf ers 2013 pan fu ASau yn trafod Syria a’r defnydd o arfau cemegol.
Bydd Boris Johnson yn agor y dadleuon gyda’r drafodaeth yn dechrau am 9:30yb gan bara tua 5 awr.
Pam galw’r Senedd yn ôl?
Yn ôl rheolau’r senedd, mater i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin yw penderfynu a ddylid ei alw’n ôl “ar sail sylwadau a wneir gan weinidogion”.
Mae’n rhaid i’r Llefarydd benderfynu os yw galw’r senedd yn ôl er budd y cyhoedd.
Fel arfer, caiff Tŷ’r Arglwyddi ei alw’n ôl – gan yr Arglwydd Lefarydd – ar yr un pryd â Thŷ’r Cyffredin.
Er bod Boris Johnson wedi awgrymu y gallai ASau gyfrannu o bell ddydd Mercher, mewn gwirionedd, gyda’r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid yn Nhŷ’r Cyffredin wedi’u codi, dim ond y rhai sy’n bresennol yn y siambr fydd yn gallu cymryd rhan.
Dyma’r 34 tro yn hanes y Senedd i gael ei galw yn ôl yn ystod gwyliau ers 1948.
Yn aml, mae digwyddiadau rhyngwladol wedi ysgogi hynny.
Dychwelodd ASau o’r toriad i drafod ymosodiadau 9/11 yn 2001 ac i drafod Irac flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn 1982, roedd dau achos pan eisteddodd y Tŷ ddydd Sadwrn, i drafod ymosodiad Ynysoedd y Falkland.
Mae rhai wedi cwestiynu’r pam fod angen galw’r Senedd yn ôl i drafod digwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd a phan mai ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Senedd San Steffan ar y mater yn Affganistan.