Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud nad yw hi ac Adam Price “wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd” ers iddo ei herio am arweinyddiaeth y blaid yn 2018.

Buodd Leanne Wood yn arweinydd y Blaid am chwe blynedd pan gafodd ei herio am yr arweinyddiaeth gan Adam Price yn 2018.

Wrth siarad ar bodlediad BBC WalesCast fe ddywedodd Leanne Wood fod amseriad Adam Price a’r modd y gwnaeth ei herio yn benderfyniad gwael.

“Dydw i ddim yn teimlo ei fod wedi’i wneud yn gywir mewn gwirionedd ac mae’n debyg bod hynny’n rhan o’r rheswm pam ei fod wedi bod yn eithaf anodd,” meddai Leanne Wood.

“Dydyn ni ddim yn ffrindiau nawr. Dydyn ni ddim wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd.”

Pan ofynnwyd iddi a oedd hynny wedi bod yn anodd delio ag ef fe ddywedodd: “Mae colli cyfeillgarwch yn anodd onid yw e?”

“Ac mae colli cyfeillgarwch o dan yr amgylchiadau gwleidyddol hyn, pan mae’r prosiect rydych chi’n credu ynddo yn cael ei atal, mae hynny’n ychwanegu haen ychwanegol o anhawster.”

Y Blaid wedi mynd am yn ôl

Ychwanegodd Leanne Wood fod y blaid wedi mynd am yn ôl ers hynny.

Mae Adam Price eisoes wedi disgrifio’r penderfyniad i herio un o’i “ffrindiau hynaf mewn gwleidyddiaeth” fel y “peth anoddaf i mi orfod ymgodymu ag ef yn fy mywyd gwleidyddol”.

Ond dywedodd y gallai eu cyfeillgarwch dwfn oroesi “y math yma o beth” a’i fod wedi teimlo bod y blaid mewn gwrthdaro.

Yn etholiad y Senedd ym mis Mai, fe gollodd Leanne Wood ei sedd yn y Rhondda.

Cafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd y Blaid yn 2012, cyn colli’r swydd yn yr ornest yn 2018, lle daeth y tu ôl i Adam Price a’i chydaelod ar y pryd, Rhun ap Iorwerth.

Enillodd hi sedd Rhondda gan Lafur yn 2016 – sedd darged i Blaid Cymru wrth iddynt geisio ennill mwy o dir yng nghymoedd y de.

Ond methodd y blaid â gwneud cynnydd pellach yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Collwyd y Rhondda ac fe lithrodd y blaid ar y cyfan i drydydd y tu ôl i’r Ceidwadwyr, er iddi ennill un sedd ychwanegol.

Annibyniaeth

Fe wnaeth Adam Price annibyniaeth yn bwnc canolog i blatfform ei blaid trwy sefydlu comisiwn i edrych ar sut y dylai’r blaid baratoi ar gyfer cynnal refferendwm.

Yn etholiad Senedd 2021 fe addawodd refferendwm ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd pe bai’r blaid yn ennill mwyafrif o seddi.

Yn ôl Leanne Wood mae’n beirniadu’r penderfyniad hwn ar ran Adam Price.

“Nid yw’n dda dweud ‘gadewch i ni ei wneud, gadewch i ni fynd’ oherwydd yr unig bobl rydych chi’n mynd i’w cymryd gyda chi yw’r bobl sydd eisoes y tu ôl i’r syniad hwnnw,” meddai.

Brexit 

Ym mis Hydref 2017 dywedodd Leanne Wood y gallai Plaid Cymru gefnogi ail refferendwm pe na bai cytundeb ymadael yn cael ei gytuno erbyn mis Mawrth 2019.

Dywedodd Leanne Wood nad oedd y newid polisi yn rhywbeth roedd hi’n ei gefnogi, a’i bod yn dadlau y tu ôl i’r llenni y dylid parchu canlyniad 2016 pan bleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydw i wastad wedi meddwl bod y syniad o ail refferendwm yn syniad gwael iawn,” meddai.

Dywedodd Leanne Wood bod y “pwysau yn aruthrol” gan Mr Price ac eraill o fewn y blaid i gefnogi pleidlais arall ar yr UE.

“Roeddwn i wir yn teimlo’n gryf iawn, iawn, os ydych chi’n gofyn cwestiwn i bobl mewn democratiaeth mae’n rhaid i chi dderbyn y canlyniad, waeth faint nad ydych chi’n ei hoffi.

“Treuliais lawer o amser o fewn Plaid Cymru yn ceisio perswadio pobl bod angen i ni dderbyn y canlyniad hwn, gan geisio perswadio pobl bod y negeseuon a’r geiriau yr oeddem yn eu defnyddio i ddisgrifio’r hyn a ddigwyddodd yn achosi dicter mawr ymysg pobl mewn rhai mannau.

“Ond roedd yn ddadl nad oedd pobl yn gallu ei hwynebu dwi’n meddwl.”

Ar ôl colli ei sedd, dywedodd Leanne Wood nad oedd ganddi unrhyw gynlluniau i ddychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen.

Plaid Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid: “Mae Leanne Wood wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith Plaid Cymru a bydd yn sicr o barhau i chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus ehangach Cymru yn y dyfodol.

“Mae Plaid Cymru yn falch o fod yn blaid sy’n cael ei harwain gan aelodau sy’n grymuso ei haelodaeth i wneud penderfyniadau allweddol, gan gynnwys rhoi mandad clir i’r arweinydd drwy etholiadau arweinyddol.”