Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi annog pob un person ifanc 16 ac 17 oed i dderbyn cynnig i gael brechiad.

Roedden nhw eisoes wedi cadarnhau y bydd pawb dros 16 wedi cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn erbyn diwedd yr wythnos.

Fe roddon nhw gadarnhad yn gynharach y mis hwn bod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi eu cynghori i ddosbarthu’r brechlyn i’r grŵp oedran hyn.

Mae clinigau galw heibio, yn ogystal ag unedau brechu symudol bellach ar agor ledled Cymru i gyflymu’r broses o frechu’r boblogaeth.

Gadael Neb Ar Ôl

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y Llywodraeth am sicrhau nad oes neb yn cael eu hanghofio wrth frechu.

“Mae ein rhaglen frechu yn un o’r radd flaenaf, ond rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl heb dderbyn y cynnig i gael y brechlyn o hyd,” meddai.

“Rydyn ni’n arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl ifanc, gan gynnwys y rheini dros 16 oed sydd bellach yn gymwys i gael y brechlyn, yn derbyn y cynnig fel bod eu risg yn llai o ran effeithiau’r coronafeirws nawr eu bod yn gallu cymdeithasu fwy.

“Y brechlyn yw’r ffordd orau bosibl o’n diogelu rhag y coronafeirws, ac rydym am sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl.

“Dyma pam y mae mor bwysig ein bod yn ei gwneud yn hawdd ac yn gyfleus i bobl allu cael y brechiad.

“Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gael y brechlyn – derbyniwch eich cynnig neu ewch i glinig galw heibio er mwyn eich diogelu chi eich hun a’ch anwyliaid, a Diogelu Cymru.”