Mae Boris Johnson wedi gwadu honiadau nad oedd ei lywodraeth wedi paratoi at ddigwyddiadau’r penwythnos, pan wnaeth y Taliban gipio grym yn Affganistan.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi wfftio’r syniad y gallai’r Deyrnas Unedig fod wedi atal Affganistan rhag disgyn i ddwylo’r Taliban ar ôl i filwyr yr Unol Daleithiau adael y wlad.

Wrth i Aelodau Seneddol ddychwelyd ar frys i Dŷ’r Cyffredin, dywedodd y Prif Weinidog wrthyn nhw mai’r brif flaenoriaeth nawr yw helpu dinasyddion Prydeinig a’u cynghreiriaid i adael y wlad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi wynebu beirniadaeth gref ar ôl i lywodraeth Affganistan ddadfeilio’n sydyn dros y penwythnos.

Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni, gyda hyd at 20,000 yn y tymor hir

Gyrru milwyr “ddim yn opsiwn”

Wrth ystyried opsiynau’r Deyrnas Unedig ar ôl i’r Unol Daleithiau gyhoeddi eu bod nhw am adael Affganistan, sylweddolodd gweinidogion y DU bod yna ddim ewyllys ymysg y cynghreiriaid i barhau heb yr Americanwyr, meddai Boris Johnson.

“Ni allai’r Gorllewin barhau â’r ymgyrch hon oedd yn cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau, ymgyrch gafodd ei llunio a’i gweithredu fel cefnogaeth i America,” meddai.

“Dw i wir yn meddwl ei fod e’n anghywir i gredu bod yna awydd ymysg unrhyw un o’n partneriaid i barhau â phresenoldeb milwrol neu am ddatrysiad milwrol gan Nato yn Affganistan. Daeth y syniad yna i ben gyda’r ymgyrch yn 2014.

“Dw i ddim yn credu bod anfon degau ar filoedd o filwyr Prydeinig i ymladd y Taliban heddiw yn opsiwn, waeth pa mor ddiffuant y bydd pobol yn dadlau dros hynny – a dw i’n gwerthfawrogi eu diffuantrwydd – ond dw i ddim yn credu bod hynny’n opsiwn a fyddai’n cael ei gymeradwyo gan bobol Prydain na’r Tŷ hwn.

“Mae’n rhaid mynd i’r afael â’r sefyllfa fel y mae nawr, gan dderbyn yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni a’r hyn nad ydyn ni wedi’i gyflawni.”

“Paratoadau ar y gweill”

Er bod Aelodau Seneddol yn methu credu fod Brois Johnson yn gwadu honiadau fod digwyddiadau’r penwythnos wedi bod yn rhai annisgwyl i’r Llywodraeth, dywedodd Boris Johnson fod cynlluniau ar y gweill ers misoedd.

Dywedodd hefyd fod penderfyniad wedi’i wneud bythefnos yn ôl i gomisiynu canolfan ddosbarthu frys ym maes awyr Kabul.

“Dw i’n meddwl y byddai’n deg dweud fod y cwymp a’r digwyddiadau yn Affganistan wedi digwydd yn gyflymach nag y byddai’r Taliban eu hunain hyd yn oed wedi’i rhagweld,” meddai Boris Johnson.

“Beth sydd ddim yn wir yw dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb baratoi a heb ragweld hyn.

“Roedd yn bendant yn rhan o’n gwaith cynllunio – mae paratoadau wedi bod ar y gweill ers nifer o fisoedd ar gyfer yr ymgyrch logistaidd anodd i gael dinasyddion y Deyrnas Unedig allan o’r wlad.”

Ar hyn o bryd, mae’r Taliban yn gadael i bobol adael y wlad, ond nid yw hi’n glir am ba mor hir y bydd hynny’n parhau, meddai Boris Johnson.

20,000 o ffoaduriaid Affganistan i gael lloches yn y Deyrnas Unedig

Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni