Bydd polisi gynnau’r heddlu wnaeth roi trwydded a gwn Jake Davison yn ôl iddo wythnos cyn iddo lofruddio pump o bobol, yn cael ei hymchwilio.
Fe fydd Cyngor Cenedlaethol Cwnstabliaid yr Heddlu yn goruchwylio’r ymchwiliad i bolisi trwyddedu Heddlu Dyfnaint a Chernyw.
Dyma’r trydydd ymchwiliad i’r digwyddiad yr wythnos ddiwethaf, pan saethodd Jake Davison, 22, ei fam a phedwar arall yn ardal Keyham yn Plymouth cyn saethu ei hun.
Mae’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu wrthi’n ymchwilio penderfyniad y llu i roi’r drwydded a’r gwn yn ôl i Jake Davison.
Roedden nhw wedi cymryd y gwn oddi wrtho ym mis Rhagfyr 2020, yn dilyn honiad ynghylch ymosodiad, a chafodd y gwn yn ôl ym mis Gorffennaf eleni.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd cyfryngau cymdeithasol pobol sy’n ymgeisio am drwydded gynnau yn cael eu gwirio hefyd.
Yn ogystal, mae gofyn i bob llu yng Nghymru a Lloegr adolygu eu proses drwyddedu ac ystyried a ydyn nhw angen ailymweld ag unrhyw drwyddedau.
Mae crwner Plymouth, Ian Arrow, yn cynnal ymchwiliad i farwolaethau Maxine Davison, 51, Lee Martyn, 43, ei ferch Sophie, Stephen Washington, 59, Kate Shepherd, 66, a Jake Davison hefyd.
“Peidio neidio i gasgliadau”
“Dw i wedi treulio amser sylweddol gyda’r gymuned hon ar ôl y digwyddiad erchyll hwn, a dw i eisiau eu sicrhau nhw ein bod ni’n sefyll gyda nhw yn ystod yr amser anodd ofnadwy hwn,” meddai Alison Hernandez, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfnaint a Chernyw.
“Bydd effaith hyn i’w deimlo yn y gymuned am amser hir.
“Rhaid i ni beidio â neidio i gasgliadau ynghylch y rhesymau dros y troseddau ffiaidd hyn ond aros am ymchwiliad y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, a’r ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan Gyngor Cenedlaethol Cwnstabliaid yr Heddlu i brosesau’r heddlu ac adroddiad y crwner wrth i ni drio deall yn llawn pa newidiadau, os oes rhai, sydd efallai angen eu gwneud i’n prosesau trwyddedu gynnau.
“Byddwn ni’n gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throsedd dros y wlad er mwyn sicrhau fod gwersi a allai gael eu dysgu ynghylch prosesau trwyddedu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu rhannu â chydweithwyr dros y wlad.”
Yn gynharach yr wythnos hon, daeth i’r amlwg fod Jake Davison wedi derbyn cymorth iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo a’i fod wedi bod mewn cysylltiad â llinell gymorth.
Mae adroddiadau wedi awgrymu bod ei fam wedi bod yn cael trafferth cael help i’w mab, gan ei bod yn poeni am ei iechyd meddwl.
Awgryma ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ei fod â diddordeb mewn gynnau a’r Unol Daleithiau, a bod ganddo obsesiwn â diwylliant “incel” – “involuntary celibate”.