Mae Croeso Cymru wedi lansio ymgyrch i annog mwy o bobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Roedd llawer o fusnesau ledled y wlad wedi dioddef o brinder staff am sawl rheswm, ac wedi ei chael hi’n anodd yn dilyn cynnydd mewn cwsmeriaid dros yr haf.
Ar hyn o bryd, mae miloedd o wagleoedd mewn swyddi yn y sector, sydd fel arfer yn cyflogi dros 157,000 o bobl yng Nghymru.
Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer datblygiad personol a llwybrau gyrfa drwy weithio yn y maes.
‘Argyfwng staffio difrifol’
Mae David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol UKHospitality Cymru, wedi dangos cefnogaeth i’r ymgyrch gan Croeso Cymru.
“Mae busnesau’n wynebu argyfwng staffio difrifol ar hyn o bryd, wrth i gyfres o broblemau ar ôl Covid a Brexit gael effaith ar yr un pryd,” meddai.
“Rydyn ni’n gefnogol iawn o’r ymgyrch recriwtio a chodi ymwybyddiaeth yma, ac yn falch iawn bod ein haelodau wedi’u cynnwys fel hyrwyddwyr lleol.
“Dyma un mesur o lawer sydd eu hangen i helpu i gael y neges allan yna, bod hwn yn ddiwydiant gwych lle mae modd datblygu gyrfa ddibynadwy a boddhaus gydol oes.”
‘Popeth wedi newid’ yn y sector
Yn ddiweddar, fe siaradodd golwg360 â rheolwr adnoddau dynol Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, Vicky Owen.
Roedd hi’n mynegi pryderon am y prinder staff yn eu busnes nhw.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl ar y funud yn dal i gael ffyrlo felly dydyn nhw ddim yn chwilio am y swydd nesaf, tra bod llawer hefyd eisiau gwneud llai o oriau,” meddai.
“Rydyn ni wedi colli tua 20% o’n staff ni dros y pandemig.
“Adeg y cyfnod clo, roedd llawer wedi mynd i chwilio am swyddi eraill lle doedden nhw ddim yn gorfod gweithio ar benwythnosau na gweithio’n hwyr, ac mae pobl wedi arfer byw ar lai o bres erbyn rŵan.
“Rydyn ni wedi codi cyflogau a thrïo bod mor hyblyg â fedrwn ni drwy roi llai o oriau i’r staff.”
Wrth sôn am ymgyrchoedd fel un Croeso Cymru i ddenu staff yn ôl i’r sector, dywedodd bod llawer o heriau’n gorfod cael eu hystyried.
“Mae’n dibynnu sut maen nhw’n trïo denu pobl yn ôl,” meddai.
“Beth sy’n anodd ydy bod popeth wedi newid cymaint yn y sector.
“Dw i’n gweld pobl sy’n derbyn budd-daliadau yn gwrthod swydd rydyn ni’n ei gynnig iddyn nhw, felly mae angen i lot newid.”