Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau bydd y Ffair Aeaf yn cael ei chynnal eleni.
Dyma fydd y tro cyntaf ers 2019 i un o’r prif sioeau gael eu cynnal yn Llanelwedd, ar ôl i’r Sioe Frenhinol gael ei chanslo eto eleni.
Bydd y Ffair Aeaf eleni’n digwydd ar 29 a 30 Tachwedd, cyn belled â bod cyfyngiadau’r pandemig yn caniatáu hynny.
Bydd arddangosfeydd a chystadlaethau yn digwydd eleni, a bydd modd cofrestru i gymryd rhan ar wefan y Gymdeithas Amaethyddol o fis Medi ymlaen.
Dywedodd Alwyn Rees, cadeirydd pwyllgor y Ffair Aeaf, ei fod yn falch bod digwyddiadau yn Llanelwedd unwaith eto.
“Mae’r gymdeithas yn falch iawn o allu cynllunio ei digwyddiad mawr cyntaf o dan y canllawiau presennol ers pen-blwydd y Ffair Aeaf yn 30 oed yn 2019.
“Rwy’n siŵr bod yna lawer o arddangoswyr, masnachwyr a noddwyr yn aros yn eiddgar i’r digwyddiad ddychwelyd ar Faes y Sioe, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl ar gyfer Ffair Aeaf 2021.
“Mae’r digwyddiad yn cael ei gynllunio gyda chyfyngiadau Covid-19 ar waith ond mae’r gymdeithas yn edrych ymlaen at sioe lwyddiannus a hoffem annog pawb sy’n gysylltiedig â’r ffair i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni.”