Bydd gofyn i unrhyw un sy’n ceisio am drwydded gynnau gael profion meddygol o dan ganllawiau statudol newydd.

Mae’r mesurau newydd wedi eu cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Gwladol Priti Patel yn sgil y gyflafan yn Plymouth wythnos diwethaf.

Bydd rhaid i ddoctoriaid sefydlu a oes gan ymgeiswyr gynnau unrhyw “gyflyrau meddygol perthnasol,” sy’n cynnwys cyflyrau iechyd meddwl, a datgan hynny i’r heddlu.

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi dweud dros y penwythnos y byddai’n rhaid gwirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol holl ymgeiswyr gynnau yng Nghymru a Lloegr.

‘Gwersi wedi eu dysgu’

Mewn datganiad ysgrifenedig i Senedd Prydain, dywedodd Priti Patel bod y canllawiau newydd yn dangos bod “gwersi wedi eu dysgu” a bod angen “gwell cysondeb” ar draws adrannau trwyddedu gynnau.

“Bydd hyn yn golygu bod neb yn cael trwydded gynnau oni bai bod meddyg wedi datgan i’r heddlu a oes ganddyn nhw unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol neu beidio,” meddai.

“Mae hynny’n cynnwys asesiad o’u hiechyd meddwl, a bydd y canllawiau hefyd yn nodi y gall rhywun wirio cyfryngau cymdeithasol ymgeiswyr gynnau.

“Bydd gan yr heddlu ddyletswydd gyfreithiol i ystyried y canllawiau statudol newydd pan fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi.

“Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto.

“Mae gan y Deyrnas Unedig rai o’r deddfwriaethau llymaf ar reoli gynnau yn y byd a lefelau cymharol isel o droseddau gynnau.

“Ac eto, er bod trasiedïau fel yr un dydd Iau diwethaf yn brin, mae eu heffaith yn ddwys.

“Rydyn ni bob amser yn asesu pa gamau y gallwn ni eu cymryd i helpu i atal cyflafan mor ofnadwy rhag digwydd.”

Cwest yn agor

Mae crwner wedi agor cwest i farwolaethau’r chwe pherson a fu farw yn y gyflafan yn Plymouth.

Bydd Ian Arrow, yr uwch grwner yn yr ardal, yn agor gwrandawiadau yn swyddogol i farwolaethau Maxine Davison, 51, Sophie Martyn, 3, Lee Martyn, 43, Stephen Washington, 59, a Kate Shepherd, 66.

Bydd gwrandawiad ar wahân yn cael ei agor i farwolaeth y llofrudd Jake Davison, 23.

Dywedodd llefarydd ar ran y crwner y bydd Mr Arrow hefyd yn derbyn tystiolaeth gan Heddlu Dyfnaint a Chernyw.

Pam fod neb angen gwn?

Dylan Iorwerth

“A oes yna reswm teg tros ganiatáu 2 filiwn o arfau marwol yng Nghymru a Lloegr?”